Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. Rhif. 3. MEDI, 1854. Cyf. I. CYMERIADAU YSGRYTHYROL-JUDAS ISCARIOT. Nid yw hanesiaeth yn ddim amgen na bywgraffiaeth ar raddfaeang. Hanes personau yn hytrach na hanes cenhedl- oedd ydyw hanes y byd a'r eglwys. Wrth ddarllen histori Persia, Groeg neu Rufain, yr ydym ar yr un pryd yn darllen hanes y brenhinoedd, y gwlad- weinwyr, y rhyfelwyr, a'r doethion a fuont yn blodeuo ynddynt; ac wrth fyned yn ol trwy yrfaoedd eglwys Crist hyd amser ei sylfaenydd, yr ydym yn cael yr hyfrydwch o gyfarfod â'r per- sonau, ac astudioy cymeriadau, a rodd- asant argraff arni sydd heb ei dileu hyd y dydd hwn. Nis gall hyn lai na bod—ac nid oes angen am iddo beidio a bod; oblegid pa beth mewn gwirion- edd ydyw hanes cenedl ond hanes ei dynion mawrion ac enwog? Oni bae am danynt hwy, ni fyddai cenedl yn genedl, ni fyddai ond rhyw bobl was- garedig a gwahanedig, amddifad o nerth i ymgynal yn nghanol llifeiriant amgylchiadau gwrthwynebus, a rhy- ferthwy teyrnasoedd, ac amddifad o yni a chymeriad i ddylanwadu ar gen- hedloedd cymydogaethol; byddai yn amddifad o bob hynodrwydd, ond yr hynodrwydd (os ydyw felly hefyd) o fod yn anhynod, ac fel y cyfryw, ni byddai ganddi enw na hanes; ni bydd- ai ganddi ansoddau i ennill enw, ac ni allai groesi a gorfodi anfanteision a rhwystrau fel ag i allu eunill iddi ei hun hanea: gwywai cyn cyflawni gweithredoedd gwerth i'w croniclo, o ba herwydd byddai yn ddiffygiol o ddy- ddordeb i gadwyno meddwl neb i'w hastudio, na llaw neb i ysgrifenu am dani. Ei holl histori a,-fyddai, Bu a Darfu. Dynion mawr sy5d yn gwneyd "cenedl, yn ei gwneyd yn bobl, sydd yn rhoddi iddi anfarwoldeb yn mysg cenhedloedd y ddaear. Pa ryfedd fod Israel yn ofnadwy i bob cenedl yn amser Moses, Josua, Dafydd a Solo- mon;? Pa ryfedd fod Groeg wedi ennill cymeriad, cymeriad ag sydd yn peri fod rhyw swyn yn ei henw, ac yn enwau ei dinasoedd, ei phorthladd- oedd, a'i hynysoedd, i ni yn awr, 'ie yn awr, pan y mae yn Uai na'r lleiaf," yn "hen ac yn oedranus, ac yn barod i ddiflanu,"—pan y gallasai rifo yn mysg ei meibion y fath wŷr a Peircles, De- mosthenes, Alcibiades, ac ereill. Felly pan y mae hanes cenedl yn werth i'w roddi ar gôf a chadw, y mae yn rhaid iddo fod, i raddau helaeth, yn gasgliad o (fywgraffiadau y cawri "a fuont yn blodeuo ynddi." Y mae hanesiaeth yn gyfran nid bychan o'r Beibl; a gwneir yr hanes- iaeth hòno i fyny o lawer o fywgraffiad- au dynion hynod. Y mae yr hanes- iaeth yn y crynswth mor flasus a den- iadol, am fod y bywgraffiadau neillduol sydd yn ei chyfansoddi mor ddyddorol —a thrachefn, y mae cofiant y Beibl mor ddyddorol am fod yr ysgrifenwyr