Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. Rhif. 4. HYDREF, 1854. Cyf. I. GWERS FAWR BYWYD. Tymhor i ddysgu yw oes dyn. Y dyn nad yw yn dysgu, ynfyd yw, a'r hwn a goleddo yn ei fynwes y dyb- iaeth ei fod wedi dysgu digon sydd ail iddo. Yn mhlith y gwersi sydd yn galw am sylw dyn yn adeg ei addysg- iad ar y ddaear, ymddengys mai y fwyaf pwysfawr ydyw, iddo ddysgu cydnabod awdurdod gyfreithlon, ac ymostwng iddi. Y mae yma lawer o awdurdodau annghyfreithlon, ac ar- glwyddi ereill yn ymgais am ddaros- twng y dyn iddynt eu hunain; a doethineb o radd uchel ynot ti, ddar- llenydd hoff, yw dywedyd am bob un o'r arglwyddi hyn, " Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom." Un gosodwr cyfraith sydd. Duw, ac nid neb arall, yw ffynnon pob awdurdod cyfreithlon. Efe yw ein Tad ni, a Thywysog eiu hieuenctid. Yr Hwn a feddai allu i greu yn unig a fedd hefyd hawl a doethineb i lyw- odraethu. Y mae yn eglur i'r neb a ystyrio, fod pob gronyn o sylwedd, a phob meddwl yn y greadigaeth, dan ddeddf i Dduw. Y mae holl ddeddfau yr Arglwydd yn berffaith gymwys i natur ac amgylchiadau y rhai sydd i ufyddhau iddynt. Ymddengys hyn yn y rhan foesol o'r greadigaeth mor eglur fel mai ufydd-dod i ddeddfau Duw yw dedwyddwch y nefa'rddae- ar; ac os gwrthwynebir hwy, neu 09 anüfyddheir iddynt, blin fydd y can- 13 lyniad i'r anufydd. Os 0 Dduw y mae y ddeddf y dechreuaist syrthio o'i blaen, ni orchfygu hi; ond gan syrthio y syrthi o'i blaen ; canys fe dderbyn pob trosedd ac anufydd-dod gyfiawn dal- edigaeth. Yna, gan hyny, ni a gan- fyddwn mai ufydd-dod i Dduw yw Gwers Fawr Bywyd. Diau fod yr hwn y mae y nef yn orseddfainc iddo yn gweini ei lywodraeth trwy ereill, y rhai sydd dywysogion a rhaglawiaid dano ef. Yn Israel, yr oedd tywysog- ion ar filoedd, ar gannoedd, ar ddegau a deugain, ac ar ddegau; a Moses oedd frenin yn Israel pan ymgasglodd penau y bobl yn nghyd, llwythau Israel; ond yr oedd y deddfau ag yr oedd y rhai hyn i'w gweinyddu, oddiwrth Dduw. Gweinyddu oedd eu gwaith hwy,—. rhoddi cyfreithiau a berthynai i Dduw yn unig. Megys ag yr oedd yn y de- chreu, ymae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn y mater hwn. Mae y deddf- roddwr doeth a da yn gweini ei lyw- odraeth ar ddynion trwy ddynion; a thra y gweinyddir cyfraith yr Arglwydd yn briodol gan ei swyddogion, y mae ufydd-dod i ddynion yn ufydd-dod i Dduw. Y mae yn wir y gwneir cam yn fynych yn ngweinyddiad llywodr- aeth, trwy geisio yr hyn na chais yr Arglwydd; ond "yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb." Gaileui yma nodi rhai 0 swyddogion.