Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. Rhif. 5. TACHWEDD, 1854. Cyf. I. DYFODIAD YR EFENGYL I BRYDAIN. Pennod I. Adroddir am un o hen athronydd- ion Athen, ei fod unwaith, liw dydd goleu, yn rhodio heolydd y ddinas gyda llusern oleuedig yn ei law, ac yn ymddangos fel un yn chwilio yn oryderus am rywbeth; ond pan ofyn- wyd iddo am ba beth yr ymchwiliai, atebai yn fursenaidd, "Chwilio am ddyn yr wyf!" Tybiwn ninau, os oedd angen am haul, a chanwyll a lantern, er mwyn chwilio am ddyn yn Athen goeth, ei bod yn llawer mwy angenrheidiol tuag at chwilio am wirionedd ar y dyrys-bwnc hanesyddol y dygwyddasom ei ddewis yn destyn. Beth ydoedd crefydd yr hen Frython- iaid? pa bryd y cyhoeddwyd yr efengyl gyntaf yn eu mysg? a phwy fu yn offerynol i'w chyhoeddi y waith gyntaf?—sydd ymholion nas gellir rhoddi atebion sicr a phendant iddynt. Y rheswm am hyn ydyw, fod ein henafiaid wedi esgeuluso croniclo a hanesu nemawr ddim ar hyn. Rhu- feiniaid a Groegiaid oeddynt haneswyr mwyaf credadwy ein cenedl yn yr amser y tiriodd Cesar a'i luoedd yma. Y mae yn wir eu bod yn lenorion penigarap, ac yn meddu cyfiawnder o gymhwysderau haneswyr; ond os coel- iwn Cesar, ni ddeallwn fod un o honynt wedi sengu tir Prydain gymaint ag unwaith; a byr a helyntus fu ei ymdaith ef yma, fel nas gallwn feddwl ei fod wedigallu ymofynond ychydig 17 i garacter a theithi cyffredinol y genedl. Dyledus arnom, yr un pryd, ydyw cydnabod yr estroniaid hyn am a wnaethant; ac ymdrecher cofio, mai tipyn o beth ydyw gwahaniaethu yn briodol rhwng y guantity a'r guality mewn tystiolaeth. Enw crefydd cyn-frodorion Prydain a Gâl oedd derwy ddiaeth, a derwyddon y gelwid yr urdd offeiriadol. Yr offeiriaid hyn a elwid ar y cyntaf yn Gwyddon—seî y lluosog o gwydd—yn arwyddo doethineb neu wybodaeth. Cyfranent eu doethineb, a hyfforddent eu dysgyblion, a chyflawnent eu defodau crefyddol, fynychaf dan y dderwen, neu mewn derw-lwyni, ac felly cysylltwyd siìl arall at eu henw, sef der. Daeth yr enw, gan hyny, i ddynodi o'r diwedd ddynion doeth y dderwen. Prif hanesydd yr urdd hon ydyw Julius Cesar. Ymddengys ei fod yn anhysbys o hanes derwyddon Prydain; canys efe a ddywed mai hanesu am dderwyddon Gâl neu Ffrainc y mae, a chan yr ystyrid yn ofynol i'r rheiny ddyfod drosodd yma cyn yr ystyrid hwy yn berffaith yn y gyfundraeth, casglai fod hanes y naill yn cael ei gynwys yn hanes y llall. Barna lluaws o awduron lled gyfrifol yn wahanol, a haerant fod gwahaniaeth mawr iawn rhwng y ddwy ganghen offeiriadoi yn y ddwy deyrnas. Hen hanesion Cymreig a roddant ar ddeall