Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. Rhif. 6. RHAGFYR, 1854. Cyf. I. DYFODIAD YR EFENGYL I BRYDAIN. Pennod II. Pan y mae yr Arglwydd Iesu Grist, ychydig cyn ei farwolaeth, yn rhags- fynegu i'w ddysgyblion lwyr ddinystr- iad y wladwriaeth Iuddewig, y ddinas sanctaidd, a'r deml; yn mhlith ereill o ragílaenyddion y dygwyddiad ofnadwy, dywed, "A'refengyl hon am y deyrnas a bregethir drwy yr hollfyd, er tystiol- aeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw y diwedd." Cyflawnwyd y broffwyd- oliaeth hontua'r fi. o. c. 70; gan hyny, pregethwyd yr efengyl "drwy yr holl fyd, ertystiolaeth i'r hollgenhe'dloedd," cyn y cyfnod hwn. Y mae gwahaniaeth barn rhwng esbonwyryn nghylch ystyr benodol yr adnod hon. Rhai a haerant mai son y mae Crist am ddiwedd neu ddinystr trefn bresenol natur, a'r tymhor ag y bydd " y ddaear a'r gwaith fyddo ynddi" yn un goelcerth danllyd fawr. Ond y mae yn ymddangos na chaniatà rhediad y cyd-destynau gyfryw dde- ongliad—y rhaid cymhwyso yr ymad- rodd "diweddy byd" atlwyr ddinystr- iad y wladwriaeth Iuddewig, neu ddi- wedd yr hen oruchwyliaeth, yr hyn, tebygem, a wneir yn Heb. ix. 26, Ue y dywedir am Grist,—" Eithr yr awrhon unwaith yn niwedd y byd yr ymddang- hosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun." Eithr cyfyd gofyniad arall—A ellir ystyried yr ymadroddion "holl genhedloedd" mewn modd cy- ffredinol? neu a raid eu cyfyngu at ranau neillduol o*r ddaear? Nis gwel- 21 wn ni paham na ellir eu derbyn yn eu hystyr fwyaf cyffredinol. Nid ydym yn golygu, wrth ddywedyd felly, i'r efengyl gael cyhoeddiad manwl dros holl wledydd y ddaear, cyn diwedd yr oes apostolaidd; ond y mae yn ym- ddangos iddi gael ei chyhoeddi yn lled gyffredinol. Hawdd oedd i'r apostolion ddysgu ieithoedd y pryd hwnw, heb fyned i brif-ysgolion na cholegau; a dyna rwystr penaf lledaeniad yr efengyl yn mhlith paganiaid wedi ei symud. Gallasai deuddeg o ddynion—neu efallai y deuddeg a thriugain gyda hwy— mewn deugain mlynedd, deithio dros lawer o ddaear, a chyhoeddi eu cenad- wri wrth fyned. Yr oeddynt yn cael y fantais i ddechreu yn Asia, lle y pre- swylia prif boblogaeth y byd; ac nid hyny yn unig, ond yr oeddynt yn cych- wyn o Jerusalem, Ue oedd yn ymylu ymron ar y gorllewin ar Affrica; i'r gogledd-orllewin gorweddai Ewrop, lle y gallent gyrhaedd yn fuan; i'r dwyrain wedy'n yr oedd eangdir mawr Asia, lle y gorwedd India, China, &c, &c. Yn wir, nid ydym ni yn canfod un anhaws- der o bwys ar ffordd y dyb fod apostol- ion a dysgyblion cyntaf Cristionogaeth wedi pregethu yr efengyl dros yr ar- ddrych (hemisphere) hon o'r ddaear. Ac mewn perthynas i'r arddrych arall, y mae y gofyuiad pa pryd y poblogwyd hi yn Uawn dyryswch, fel nas. gellir sicrhau pa un a ydoedd wedi ei sengu