Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. HYDREF, 1855. N I N E F E H.-II. Un e'r bygythion a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy Nahum yn erbyn Nine- fehoedd, "Gwnaf dyfedd, canysgwael wyt." Cynwysai hyn fwy na chwymp cyffredin; awgrymai y byddai ei din- ystr hi yn llwyr, fel y mae y bedd yn llwyr ddinystrio y neb sydd yn disgyn iddo, ac yn peri i'w goffadwriaeth ddar- fododdiar y ddaear, felly y Uwyr ddin- ystrid hithau ac y disgynai ei choffa- dwriaeth i dir annghof. Suddodd fel tòn yn y môr, ac oni buasai fod ei henw ac ychydig o'i hanes yn y Beibl, prin y buasai y byd yn gwybodheddyw i'r fath ddinas erioed fod. Gellir cyfrif am hyn drwy achosion naturiol, ond nid ydyw hyny yn ei attal i fod yn gyf- lawniad proffwydoliaeth; oblegid trwy foddion naturiol y mae yr Arglwydd yn gyffredin yn dwyn o amgylch ei am- canion. Un achos i Ninefeh gael ei cholli o sylw y byd ydoedd, ei bod hi o'r neilldu, yn bell o brif-ffordd y byd. Yr ydoedd Babilon 300 milldir yn nes i'r môr, ac mor fawr ac enwog fel ag i dynu sylw' yn gwbl ati ei hun. A phan adeiladodd Alexander Fawr Alexandria yn yr Aifft, i'w gwneuthur yn farchnadfa y byd, aeth Dyffryn Mesopotamia bron yn gwbl anadnabyddus ond i'r rhai a bre- swylient ynddo. Yn Alexandria yr oedd y byd dwyreiniol agorllewinol yn cyfarfod â'u gilydd, yn lle, fel cynt, yn Tadmor, ar gyffiniau y dyffryn hwuw. Achos arall i Ninefeh gael ei cholli o sylw oedd, i wareidd-dra, gwybodaeth, a chelfyddid, symud yn raddol o'rdwy- rain i'r gorllewin. Machludodd haul y dwyrain, yr oedd bywyd ac yni y byd yn y gorllewin, ac am fod teithio mor beryglus, nid oedd ond ychydig iawn o drigolion y gorllewin.yn myned i'r dwyrain, o herwydd hyn yr oedd y wlad a'r trigolion bron yn anadnabydd- us. Bu cwymp cenedl Israel yn gwymp i'r byd dwyreiniol. Yr oedd mynydd Seion yn fendith i'r holl am- gylchoedd. Pan ddiffoddwyd y tàn ar allor Duw, a'r lamp yn ei demí yn Je- rusalem, aeth y dwyrain yn dywyll yn. wir. Pan gollodd yr halen oedd yno ei flas, ebrwydd y llygrodd yr holl wledydd cymydogaethol; ac erbyn hyn y maent mor isel fel y tybia trigolion amgvlchoedd Tadmor a No dylwythog, (sef Thebes) ac On, wrth weled adfeil- ion yr adeiladau gwychion a fu yno gynt, mai gwaith cawri oeddynt, neu yn hytrach waith y duwiau, nis gallant gredu mai eu henaflaid hwy a'u gwnaeth. Drachefn, y mae yn debygol nad oedd nemawr adfeilion yn Ninefeh fel yn Tadmor, Thebes, &c, i dynu sylw ati, o herwydd i'w dinystr fod mor