Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3^ Y METHODIST. EBRILL, 1856. Y WASG A CHREFYDD. Y mab gan bawb sydd yn credu yn ngwellhad cynyddol cymdeithas—-yn mherffeithiad y natur ddynol, ryw beth yn sylfaen i'r grediniaeth hòno; ac yn eu barn hwy y mae cyrhaeddiad yr amcan daionus, yn anwahanol gysyllt- edig àg i*r peth hwnw gael ei ddwyn i ymarferiad. Cysylltir hyn gan rai â ffurf benodol o lywodraeth wladol, gan ereill â chyfundrefn neillduol o gref- ydd; ond gan y rhan fwyaf yn awr, & chynydd gwybodaeth. Y wasg sydd i ddwyn i mewn fil-flwyddiant y byd. Yr awdwr, yr argraffydd, a'r athraw, ydyw y tri sydd i aros yn y byd wedi i oleuni gwybodaeth yrnlid pawb arall o'r golwg fel cysgodau yr hwyr o flaen yr haul; a'r mwyaf o'r tri ydyw yr argraffydd—y wasg. Pe buasem yn medru credu mewn mil-flwyddiantarwahan oddiwrth gref- ydd, gwelsem fwy o sail i ddysgwyl i'r wasg ei ddwyn o amgylch na dim arall. Y mae yn anhawdd dywedyd gormod am ei gwerth; gwnaeth eisoes i'r wlad hon, ac i'r byd, ddaioni anmhrisiadwy. Ond byddai dysgwyl mil-flwyddiant drwyddi hi mor ofer ag a fyddai dys- gwyl dydd o'r ddaear yn Ue o'r nef- oedd. A chymeryd yn ganiataol y byddai y wasg wedi ei nawseiddio àg ysbryd Cristionogaeth, yr ydym yn 13 dysgwyl llawer mwy oddiwrth y pul- pud nag oddiwrthi hi, er nad ychydig a ddysgwyliwn oddiwrthi hithau. Nid anaml yn y dyddiau hyn y clywir rhai yn ei rhoddi o flaen y pulpud; ond tra y bydd y natur ddynol yr hyn ydyw, bydd gan siarad medrus annhraethol cryfach dylanwad arni na llyfr. Nid ydym yn proffesu deall dirgelwch y naill ddylanwad na'r lla.ll, ond medd- yliem fod yn rhaid cynyrchu cydym- deimlad rhwng y darllenydd a'r ysgrif- enydd, rhwng y gwrandawr a'r siarad- wr, cyn y gall y naill ddylanwadu ar y llall: a gwyr pawb fod yn llawer hawddach gwneyd hyn rhwng siarad- wr a gwrandawr, na rhwng ysgrifenydd a darllenydd. Os felly, y mae dylan- wad y cyntaf yn fwy uniongyrchol ac yn fwy cryf na dylanwad yr ail, a hyny hefyd yn mhob oes, ac ar bob math o ddyn. Cam â'r wasg ac â'r pulpud ydyw edrych arnynt fel gelynion, y naill am ddisodli y llall; yn hytrach cydweithwyr ydynt, y naill yn darparu l!e y llall, a'r naill yn perffeithio gwaith y llall. Heb y wasg dirywiai y pulpud i ofergoeledd. Ac heb y pulpud ar- weiniai y wasg i amheuaeth ac anffydd- iaeth. Y mae tôn iachus y naill yn ymddibynu bob amser ar bresenoldeb y llall. Yn y gwledydd Pabaidd, lle y