Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. MEHEFIN, 1856. CYFARCHIAD I GYMDEITHAS GYFEILLGAR. " üanys y corff nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyflaw, nid wyfo'r corff; ai am hyny nid yw efe o'r corff? Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nidwyý o'r corff; ai am hyny nid yw hi o'r corffì Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai y clywed ? pe y cwbt fyddai glywed, pa le y byddai yr arogtiad ? Éithr yr awrhon Duw a osododd yr aelodau, bob un o honynt yn y corff, fel yr ewyll- ysiodd efe. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai y corff. Ünd yrawrhon llawer yw yr aelodau, eithr un corff. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, nid rhaid i mi wrtliyt; na'r pen chwaith wrth y tra.ed, Nid rhaid i mi wrtuych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corff y rhai a dybir eu bod yn wanaf, ydynt angenrheidiol. A'r rhai a dybiwn ni eu bod yn anmharchedicaf o'r corff, yn nghylch y rhai hyny y gosodwn chwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael chwaneg o harddwch. Oblegid ein haetodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho : eithr Duwa gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i'r hyn oedd ddiffygiol: fel na byüdo annghydfod yn y corff; eithr bod i'r aetodau ofalu yr un peth dros eu gilydd. A phaun bynag ai dyoddefa wna un aelod, y mae yr hotl aelodau yn cyd-ddyoddef ; ai anrhydeddu a wneir un aeiod, y mae yr holt aelodau yn cyd-tawenhau."—1 Cor. xii. 14—26. Un o nodweddion gweithredoedd yr Arglwydd ydyw amrywiaeth. Ac fel yn ei holl weithredoedd gwelir hyn yn Dur eglur yn nghyfansoddiad cymdeith- as, pob cymdeithas—y deuluaidd—y wladol — yr eglwysig. Pe newidid gwaith Duw yn hyn trwy ddiddymu yr amrywiaeth, buan y gwelid na byddai hyny yn elw i neb. Nid ydym yn tybio fod yn angenrheidiol profi mai gwaith Duw ydyw cyfansoddiad cym- deithas, oblegid y mae hyn mor eglur i bawb a ystyria, ag ydyw fod trefn y rhod yn waith Duw. Pe byddai eisiau prawf o hyn, digon i hyny ydyw, fod symud dim ar ordeiniadau dwyfol cym- deithas yn arwain mor sicr i annhrefn, ag yr arweiniai symud un o fydoedd y gyfundrefn heulog o'i gylch i hyny. Yn yr adnodau a ddarllenwyd yn 21 destyn, cydmherir y gymdeithas eglwys- ig i gorff dynol, i ddangos, er fod yno undeb, fod yno amrywiaeth, a gwahan- iaeth mawr, eto bod y naill aelod yn angenrheidiol i'r llall, a'r oll o honynt wedi eu trefnu yn fanteisiol i dded- wyddwch y corff yn gyffredinol, "fel na byddo annghydfod yn y corff." Yr oedd gan yr apostol yma gyfeir- iad at y doniau gwyrthiol a hynodent eglwys Corinth ar y pryd. Tybiai yr aelodau fod rhai o'r doniau hyny yn fwy rhagorol nag ereill, ac o ganlyniad, eu bod yn gwneuthur eu meddiannwyr yn fwy enwog a pharchus na'u brodyr. Yr oeddynt oll yn ddoniau yr un ys- bryd, ac wedi eu cyfranu, y mae yn debyg, yn gyfatebol i gymhwysder amrywiol aelodau yr eglwys i'w der- byn. Yr oedd yno rai yn fwy cy-