Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. M E D I, 1856. MYFYRDODAU MYNYDAU HAMDDENOL. Mr. Gol.—Addawsom yn ddiweddar wneutburychydigsylwadauar y Parch. C. H. Spurgeon; ond drwy ryw am- gylchiadau, Uuddiwyd ni yn y bwriad hwnw hyd yn bresenol. Odid fod ond ychydig o ddarllenwyr y Methodist heb wybod rhywbeth am y dyn poblogaidd hwn, am ba un y mae cymaint o wa- hanol farnau braidd ag sydd am liw y Chameleon. Rhai a'i cydmharant i Ro- bert Hall, ereill i Mr. Jay o Bath, ereill i Rowland Hill, ereill i Whitfield; a diau ei fod yn feddiannol ar lawer iawn o eglurdeb yraresymgar y blaenaf, mwynder yr ail, arabedd y trydydd, a gallu perswadiol yr olaf. Nid ydys i dybied fod y neillduolion hyn yn cael eu hamlygu yn mhob pregeth; ond os gwrandewir ef am ychydig droion, gwelir ei fod yn weinidog ag sydd yn uno ynddo ei hun lawn cymaint, a mwy efallai, o anhebgorion pregethwr pobl- ogaidd, ag un dyn sydd yn fyw yn bre- senol. Gellir dywedyd am dano ei fod yn wreiddiol iawn, heb arddangos ych- waith ryw ymdrech mawr at fod felly. Ei hanes foreuol sydd fyr. Ganwyd ef ar y 19eg o Fehefin, 1834, yn swydd Essex; fel y mae yn awr yn 22ain oed. Ei dadau a'i dad ydynt weinidogion gyda'r Annibynwyr. Cafodd ddysg- eidiaeth gyffredin pan yn ieuanç; ac yn fuan daeth yn îs-athraw mewn ysgol 83 ddyddiol yn Newmarket, lle y dechreu- odd amlygu ei dalent siarad mewn an- erchiadau byrion i blant yr Ysgol Sab- bothol. Symudodd oddiyma i Gaer- grawnt, a pharhaodd yn ei anerchion, a dechreuodd bregethu ar nosweithiau Sui yn y pentrefydd cymydogaethol. Suan y galwyd ef i fod yn weinidog i eglwys berthynol i'r Bedyddwyr yn Waterbeach. Yma efe a lwyddodd yn ddihafal, gorlanwyd y capel, a mawr luosogwyd yr eglwys. Yn yr wythnos, efe a weinidogaethai i unarddeg o ben- trefydd cyfagos. Er's tua dwy fiynedd a hanner yn ol, cafodd wahoddiad i ym- gymeryd âg eglwys ddadfeiliedig yn New ParkStreet, Southwark, Llundain, yr hon a fuasai gynt dan ofal y diwedd- ar Dr. Rippon. Ymfoddlonodd i ddy- fod ; eithr nid hir y bu yno cyn bod ei enw wedi dyfod yn fwy adnabyddus na nemawr enw yn Llundain. Wrth chwilio am gapeli amryw o brif enwog- ion Llundain, yr ydym yn gorfod cael enwau yr heolydd yn fanwl, onidê ffar- wel am eu cyrhaedd; ond y mae enw Spurgeon yn llawer mwy adnabyddus nag enw yr heol yn mha un y pregetha. Nid ydyw ei gapel nepelí oddiwrth ddarllawdy mawr Barclay & Perkins, Ue y cafodd Haynan groesaŵ Seisnig er's blynyddoedd yn ol. Mae y capel wedi cael ei helaethu unwaith iddo, ac