Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. HYDREF, 1856. BRODYR YR ARGLWYDD. *« Onid hwn yw mab y saer ? Onid Mair y gelwir ei fatn ef? A Iago, a Joses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef," Mat. xiii. 55. Ceir nid llai nag wyth ereill o grybwyllion am frodyr yr Iesu. Penderfynai y darllenydd Cymreig, ag y mae ei feddwl heb ei ddylanwadu gan opiniynau blaenorol yn y fan, mai gwir frodyr yn ol y cnawd ein Har- glwydd oedd y rhai crybwylledig. Dyma y syniad mwyaf ebrwydd a naturiol.—Meibion ei fam a'i dad cyf- rifedig oeddynt. Ni theimlai yr Iuddew hyn mor rwydd, yn gymaint a bod y gair am frodyr yn ei iaith ef yn meddu ystyr ehangach, yn dynodi perthynasau neu geraint yn gystal. Ar y cyfrif hwn, a chyfrifon ereill, y mae y cwestiwn â chryn ddadl yn ei gylch. Nid yw ys hen esbonwyr—y tadau a'r diwygwyr —na'r rhai diweddaraf, yn cydfarnu o barth i'r cwestiwn. Nid ydym yn barnu fod y mater yn annhraethol bwysig: ac yr un pryd, nid ydym yn ystyried fod dim a berthynai i'r dyn Crist lesu yn ddibwys. Pob peth y cyffyrddodd ef â hwynt—pob man y bu —pob gweithred a gyflawnodd—pob gair a ddaeth allan o'i enau, nis gallant lai na bod yn llawn swyn a dyddordeb i'r meddwl Bydd yn ei garu, am eu bod yn dwyn perthynas âg efe. I ddyn, y nae holl amgylchiadau dyn yn ddy- 37 ddorol; ac i bechadur, y mae pob peth o gylch y Ceidwad yn deilwng o sylw; ac nid hyny yn unig, ond y mae pob peth bychan, a gyfrifir yn ddibwyí, ag a ddygai gysylltiad â'r dyn Crist Iesu yn meddu mawredd, oblegid y mae ystyr i'r cwbl, ac addysgiadau i'w cael o'r cwbl. Y mae yn un o erthyglau ffydd y Pabyddion fod Mair yn " forwyn bar- haus;" a thybiant ei bod yn heresi o'r fath waethaf dal y gwrthwyneb. Gwa- haniaetha Basil, un o'r tadau, y cwest- iwn hwn oddiwrth y pynciau angen- rheidiol i'w credu, a gadawa ef ytt mysg y pethau " na ddylid cywrain- chwilio iddynt." Cyn amser Jerome, yr oedd yn farn gyffredinol mai plant Joseph o wraig arall, yr hon a fuasai farw cyn ei ddyweddiad i Mair, oedd- ynt. Ceisia Jerome brofl mai nid plant Mair oedd Iago a Joses, ond plant ei chwaer, Mair, gwraig Cleopas; a seilia y dybiaeth hon ar gydmhariaeth o'r adn. Ioan xix. 23; Mat. xxtü. 56; Marc xv. 40. Yn y naill, dywedir fod Mair, chwaer mam yr íesu, wrth y groes; ac yn y llall, dywedir fod Mair, mam Iago a Joses, yno; a chasgla mai yr un oeddynt; ac feîly y gelwir ei meibion yn frodyr i'r Iesu, yn ol arfer- iad yr Iuddewon, fel y.gelwir Lot yn frawd i Abraham. Ceisir ateb dadl