Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHIF 12. RHAGFYR, 1S97. Cyf. I. Y PARCH. THOMÄS ROWLANDS, MäDÄGASCäR. (GYDA DAREUN.—GWEL TUDALEN 187.) ||AE hanes y Genadaeth Gristionogol yn Ynjrs Madagascar, o adeg ei sefydliad gan y cenadon Cymreig, Bevan a Jones, yn y flwyddyn 1818, hj'd heddyw, yn hanes rhyfedd, yn cynwys penodau tywyll iawn yn ngweith- rediadau Rhagluniaeth, jrn neillduol yn nglŷn â'r cenadon cyntaf, a'r erledigaethau creulon fu ar y Cristionogion yn adeg cenadaeth Jones a Griffiths, yn nghyda'r erledigaeth bresenol o eiddo Llywodraeth Ffrainc a'r Jesuitiaid Pabyddol ar y cenadon a'r Cristionogion. Ond ar y llaw arall, ceir penodau goleu a dysgleiriol, yn dangos gofal Duw am Ei Eglwys a'i bobl unigol, a'r gras cynorthwyol yn ol y d3rdd y mae yn gyfranu, i wroli a dyddanu mewn treialon cyfyng a chwerw ; a'r modd y mae yn dal y doethion yn eu cyfrwysdra—yn troi y felldith yn fendith, yn atal yr erledigaeth, ac yn y diwedd }Tn goruwchreoli pob peth i sicrhau llwyddiant Cristionogaeth. Mae cofio hanes y Genadaeth yn Madagascar yn y gorphenol yn gwneyd i ni gredu yn gryf y gofala Duw eto am Madagascar, ac nad ywT Llywodraeth di-dduw a balch Ffrainc, na chynllwynion dirgelaidd a chyfrwys y Babaeth i gael eu hamcanion i ben, a difodi Cristionogaeth bur yn y wlad. Mae gwaith a hunanaberth y cenadon a'r Cristionogion yn y gorphenol, a ffyddlondeb a dewrder y cenadon a'r Cristionogion presenol, vn sicr o gadw gwirionedd yn y tir, a goleuni Dwyfol i gyneu yn awyr y wlad. Nid hawdd cael gan Dduw adael Ei etifedd- iaeth yn y wlad sydd wedi ei chochi â gwaed Ei ferthyron, a'i