Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 44. AWST, 1900. Cyf. IV. Y PÄRCH. J. W. WILSON, EI WRAIG. A'I BLENTYN. CHUNG-KING, CHINÄ. (GYDA DARLUN—GWEI, TUDAL. Il8.) MAE Mr. Wilson wedi bod bellach dros un flynedd ar hugaiu ar y maes Cenadol yn China—efe oedd sefydl- ydd Cenadaeth Chung-King yn 1889—ac y mae Mrs. Wilson wedi bod tua phedair blynedd ar ddeg. Yn ystod y blynyddoedd hyn, mae eu llafur wedi bod yn fawr, yn amrywiol, a didor. Pregetha Mr. Wilson dair gwaith y Sabbath, a bob dydd yn rhywle yn ystod yr wythnos, naill ai yn yr awyr agored, ar yr heol, neu ar y maes, ynte mewn capel; ceidw ddosbarthiadau Beiblaidd, a thala ymweliadau rheolaidd â'r Hosŷüal s}"dd yn dal cysylltiad â'r Genadaeth, er mwyn gweled fod y gwaith meddygol yn myned yn mlaen yn drefnus a ílwyddianus, a chael cyfleusdra i weled ac ymddyddan â'r cleifion. Mae o hyd mewn gwaith. Felly hefyd am Mrs. Wilson gyda'r merched a'r gwragedd, }Tn eu dysgu a'u hyfforddi gyda gwaith a galwedigaethau bydol, er eu gwneyd yn fwy defnyddiol a dedwydd yn eu bywyd personol a theuluaidd ; eu dyrchafu mewn syniadau, arferion, a safle g}Tm- deithasol ; ond yn benaf a blaenaf, er eu dwyn dan ddylanwad yr Efengyl i gredu yn Iesu Grist a byw bywyd duwiol. Mae ganddi ddosbarth o wragedd a merched. Cyferfydd â'r dosbarth yma yn wythnosol bob ddydd Gwener ; ac y mae yn ddydd o lawenydd ganddynt—llawenydd i'r athrawes fedrus ac i'r dysgyblion oll. Dywed Mr. Richard Walfendale fod Mrs. Wilson braidd yn cael ei haddoli gan y merched a'r gwragedd hyn—fod eu hymddiried yn gyflawn ynddi, a'u cariad yn angerddol tuag ati. Mae gwaith