Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 97. IONAWR, 1905. Cyf. IX. DIWYGIÄD 1904. AN yn cysylltti y flwyddyn 1904 á'r Diwygiad Crefyddol mawr sydd yn bendithio ein heglwysi a chymdeithas yn gyffredinol yn yr adeg bresenol, nid ydym yu golygu ei fod yn gyfyngedig i'r flwyddyn hon, a'i fod i ddarfod gyda'i therfyniad. Gelwir ef felly am mai yn y íìwyddyn 1904 y dechreuodd ; ond ni a obeithiwn, ac a weddi'wn, am iddo barhau yn hir, a myned yn mlaett drwy flynydd- oedd y dyfodol, er bywhau yr eglwysi oedd wedi marweiddio gan fydolrwydd, difrawder, ac ysgafnder yr oes. Mae i bob Diwygiad o'r fath ei hanes a'i nodweddion arbenig, yr hyn sydd yn dangos cyfoeth dylanwadau yr Ysbryd ar gyfer angenion amrywiol dynion, a ffurfiad cymeriad Cristionogol hardd a llawn. Felly am y Diwygiad presenol, mae iddo ei arw-eddau neill- duol, ac yn cwrdd yn gyflawn âg arweddau y dirywiad cyffredinol oedd wedi cymeryd lle yn y cylchoedd crefyddol. Yr oedd y cynull- iadau cyhoeddus wedi myned yn ychydig a gwan. Anhawdd cael yr aelodau i fod yn ffyddlawn yn nghyfarfodydd y Sabbath, chwaethach yr wythnos—yr oedd y byd yn ei fasnach a'i ofalon wedi meddianu tneddwl, pryder, ac amser y bobl; ond yn awr, dan ddylanwad yr ysbryd diwygiadol, mae y lluaws yn dyfod yn nghyd o bell ac agos ; digon o amser gan bawb i fyned i'r cwrdd, a hyny yn brydlawn, a thrwy bob tywydd. Gwelir hen ac ieuainc, rhieni a phlant bychain, yn myned yn dyrfaoedd. O'r blaen, anhawdd oedd cael gan yr addolwyr gymeryd rhan yn y gwasanaeth—gwrthodent yn aml hyd yn nod ddarllen penod, neu roddi emyn allan, chwaethach dyweyd gair o brofiad, neu arwain mewn gweddi ; ond yn awr, y