Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRMADÜR CYMREIG. Cyf.l.] E^Sf&WÎS a©4&. [Rhif.l. RHAGLITH. Wrth gychwyn ein misolyn, y mae yn bur naturiol i ni amlygu beth yw ein prif amcan yn ei gyhoeddi, a pheth fydd ein cynllon yn ei ddygiad yn mlaen—beth yw ein rheswm dros wthio un newydd i fodoliaeth, a'n hyder am ei barhad, pan y mae bywgraffiad y lluaws cyífelyb a fu o'i flaen, yn dysgu gwers mor dywell a digalon. Wel, y mae yn ddigon hawdd gwneyd hyny heb ddefnyddio Uuaws mawr o eiriau, na myned i lawer iawn o gwmpas. Ein hamcan yn cyhoeddi y Beirniadur yw gosod llyfryn yn fisol yn nwylaw yr efrydydd Cymreig, fyddyn debyg o ëangu ei feddwl a gwellau ei galon. Wrth i ni ddweyd efrydydd Cymreig, na feddylied ein darllenydd ein bod yu golygu fod bod yn Oymro, nac yn Gymro uniaith fel y dywedir weithiau, yn rhwystr anorfod i fod yn ddefnyddiol. yn athrylithgar, nac yn wir fawr: na, yr ydym yn mhell oddi wrth dybio y fath beth. Dynion uniaith oedd rhai o'r dynioiì mwyaf, yn gystal a'r rhai defnydd- iolaf, a fu yn y byd erioed, Groegwr uniaith oedd Homer, pen bardd cenedlig y byd —Hebrewyr uniaith oedd y rhan luosocaf o'r prophwydi santaidd, prif gyfansoddwyr y byd—Sais uniaith oedd awdwr Taith y Pererin, llyfr, y byddai yn anrhydedd í ysgolhaig penaf yr oes wneyd ei gyflèlyb —îe, Sais uniaith oedd Shakspeare, y bardd mwyaf ei dalent yn yr oesoedd diweddaraf. Felly, o ran hyny, gall Cymro uniaith fod yn Homer o fardd, yn JDdemosthenes o areithiwr, yn Handel o gerddor, yn Funyan o ddychymygydd, ac yn Edwards o dduweinydd. Ac yn wir y mae hanes ein gwlad yn profi hyn. Gwyddom am rai yn amlieithawg, ond wedi'r cwbl, y gellir cynhwys eu henaid mewn plisgyn cneuen: ac o'r tu arall, gwyddom am rai Cymru un- iaith (!) sydd a'u meddyliau yn ymagor fel amrantau y boreu, yn anfesurol. Ond nid ydym yn dweyd hyn mewn modd yn y byd i ddiystyru gwybodaeth ieithyddol: na; y mae mantais