Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. 1.] mmA©If^mg 5LS4g. \_RMf\2. îllçttgîrîrtartft f&grgtfigroU SEFYDLIADAU GWLADOL YR IUDDEWON. EHÄ.N. III.—TEEFNIADAU MILWRAIDD. Heblaw yr arfau ymosodol a enwyd yn barod yn mhlith yr Iuddewon, ymddengys ya amlwg wrth ddarllen y Beibl fod ganddynt fath o beirianau (machines) rhyfel, y rhai a ddefn- yddid ganddynt er ymosod ar, a dinystrio muriau dinasoedd, a dymchwelyd castelli eu gelynion. Gwedi diwyllio y celfau a'r gwybodaethau i'r fath raddau o berffeithrwydd ag ydynt yn_ ein dyddiau ni, a'u troi er llunio pob cywreinrwydd yn ngwn- euthuriad'arfau'rhyfel, nes y maent, gellir meddwl, o ran eu ffurf a dull eu defnyddiad, yn gwbl wahanol i'r rhai a whëid ac a ddefnyddid gan yr henafìaid Iuddewig ; a thrwy hyny, yn nghyd a maith dreigliad amser nid yw yn rhyfedd íbd ein gwy- bodaeth mor anmherfíàith amyrofferynaudinystrynrhyfeloedd yr Iuddewon. Y mae yn debygol iawn y gallai bod rhai o honynt wedi myned yn hollol i ddifancoll, na wyddir dìm yn bresenol am danynt;—am ereill, gwyddir ychydig yn eu cylch, a darlleniram euheffeithiau grymus ynfiu gweithrediadau—er na wyddis nemawr, os dim yn hollol sicr am ddull eu cyfansoddiad a'u gwneuthuriad. Felly, gan fod hanes y rhan uchod o arfau ym- osodol yr Iuddewon yn gladdedig^ mewn cymaint o dywylìwch, nid oes laŵer yn rhagor i wneyd, na ffurfio y farn am danynt fel yn ateb y dyben er cynyrchu yr effeithiàu a briodolir iddynt —ac hefyd yn cyfateb yn eu ffurf a'u gwneuthuriad i'r ychydig hanes anmherffaith sydd am danynt. Y fod y fath offerynau rhyfel ag a grybwyllir uchod, mewn bodoliaeth yn mhlith yr Iuddewon, y mae dau reswm yn profì hyny. Yn gyntaf mae hanes yr ymosodiadau a'r dinystr, a wnaed gan yr Iuddewon ar ddinasoedd eu gelynion yn y