Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] MEDI, 1832. [Rhif. 113. HANES LLANARMON YN IAL. Llanarmon yn lâl, Cantref Iâl, ar gy- fiìniau Swyddau Dinbych a Challestr, yn Swydd Dinbych, sydd le nodedig am gar- neddau, oerni ei sefyllfa, a'i leuad. Dos- perthir y Plwyf hwn i bedair ar ddeg o drefydd-degwm, nid amgen na Boüidris Treian (Swydd Callestr) Bodidris Rhiw- barth, trwy ganol y rhai yr â terfyn Swyddau Dinbych a Challestr, Bodigre Iarll, Bodigre Abbot,* Cileiriog, Gelli- gynnan, Creigiog Uwch-glan, ac Is-glan, Allt-gymbyd, Llan, Banhadla, Cyfnant, Gwaen-y-ffynnon, Eryryt.f Cyssegrwyd yr Eglwys ar enw Garmon,t ond ni wydd- is yn iawn ym mha oes yr adeiladwyd lii gyntaf; ail adeiladwyd hi yn y flwyddyn 1730, yn ddeublyg; y mae oddeutu 40 llath o hýd, ac 20 o léd, yn cael ei chyn- nal ar golofnau coed. Ychydig flynyddau yn ol, trwy ymdrech clodwiw y Parch. Mr. Denman, Wilson Jones, Ysw. a'r plwyfol- ion ereill,cafodd ei llech-feini, a'reistedd- leoedd, eu gosod mewn trefn, a thân-gell yn ei chwr eithaf; ac y mae hi yn awr yn harddwych ac yn gynnesawl. Ar yr ystlys ddehau tu allan i'r Eglwys mae Uun Garmon o gareg nâdd, yn dal calon yn ei law, ac yn ngwisg offeiriadol y dyddiau hyny. Yn yr un ystlys o fewn i'r Eglwys y mae gorweddle a chareg lun, * Fe allai iddynt gymmeryd yr cnwau liyn «ddiwrth foil y naill yn perlhyii i larll Grey de Ruthin, a'i ilall i Abbad Eglwyscg; ond y mae degwm y ddwy yn awr yn pei thyu i'r Ficer. t Dywed Pennant mai oddiwrth hcn Gyrns <> làl, y Diarebwr, y cafo<ld y dre-ddegwin lion ei henw. t St. Germanus, Esgob Auxere, yr liwn, yngliyd ' Lupus, a fuonl y prif achos o ennill y fuddugol- iaeth hynod Halleluiaticae, neu Ilosanna, dros y Pictiaid a'r Celyddonwyr wrth Wylanen yn ymyl y Wyddgrug, ac a ddaethont drosodd o Ffraingc i «idiwygio cyfeiliornad Morgan, neu y Pelayian Hereay. MEDI, 1832. a'r geiriau hyn yn ysgrifenedig ar y dar- ian—" Hic jacet Gruffudd ap Llewclyn ap Ynyr." Hwn oedd un o gyn-deidiau y Llwydiaid o Bodidris, fel y dangosir ar ol hyn. Trosglwyddwyd y careg-lun o'r Eglwyseg (neu Vale CrucisJ pan ddi- ddymwyd y Mynachdy hwnw yn amser Harri yr wythfed. Y chwedl am dano sydd fel y canlyn : —Pan yr oedd yr holl fyd Cristionogol yn myned i ennill y ddinas sanctaidd Jerusalem oddiar y Tyrciaid, Gruffudd yntau hefyd oedd un o'r cadfridogion enwog; ac wrth gymmer- yd dinas, pan â'i draed ar y caerau, brathwyd ef yn ei boten, nes y syrthiodd ei berfedd i lawr rhwng ei draed, ac yntau yn dal etto i ymladd yn wrol, daeth ci a chydiodd yn ei berfedd. Fcl hyn y dar- lunir y gwr careg—y mae yn gorwedd ar lèd ei gefn, â'i gleddyf yn y naill law, a'i astalch yn y llaw arall, ac wrth ei draed gi yn gafaelu yn y dolenau, y rhai a liwid o liw perfedd. " Disgynydd dewr cyn-dad glew!" Yr hwn* yn ymladd dan Gruffudd ap Madoc, Arglwydd Dinas Brân, yn erbyn Harri yr eilfed, a ddigwyddodd dynu ei fysedd gwaedlyd ar hyd ei gleddyf, yr hyn a barodd yr arf-bais perthynol i deulu Bodidris,t sef pedair llinell ar darian. * Ynyr ap Howcl ap Meredilh ap Sandde llardd; yr hwn, o herwydd ei wroldeb y'mrwydr Corwen, yn y flwyddyn 1165, a gafodd gan ei dywysog y fraint o wisgo pedair Ilinell waedlyd ar ei darian. Canys tra yr oedd efe yn ymddiddan â'i dywysog ar ol y frwydr, à'i law aswy oll yn waed, digwyddodd ei tliynu ar draws ci glcddyf, a gadael 61 ci bedwar bys arno. Y tywysog yn Hweled liyn, a orcliymynodd iddo eu dwyn ar ei darian ; a rhoddodd iddo ar yr un pryd dre-ddegwm Gelli-gynnan, niegys prawf mwy sylweddol o'i ewyllys da.—PüNNANT. t Bodidrit yn Iâl. Sandde Hardd oedd fab Çaradqc, tywysog euwog ym Móu yn nectjreuad y K k