Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. AWST, 1846. MMMIDAl !1TW©«ÍDIÍ ¥IE M&W« CLEMENT 0 EUFAIN. Os oedd yr Iuddewon ar gyfrif gwael- der ac anenwogrwydd y lìe, yn galìu gofyn, A ddichon dim da ddyfod o Na- sareth? llawer ìnwy naturiol ydyw i'r gwir Gristion ar gyfrif ei hofergoelion afresymol, ei heresiau dinystriol, ei her- ledigaethau marwoì, a'i rhwysg a'i gor- wyehder bydol, ofyn, A ddichon dim da ddyfod allan o Eglwys Rhufain? Ond megys y darfu i ymddangosiad Mab Duw lwyrddileu grym gwrthddadl yrluddew- on yn nghylch y cyntaf, dichon y bydd i'r ychydig nodiadau dilynol yn nghylch Clement o Rufain, mewn rhyw fesur, roi boddlonrwydd i'r Cristion amheus yn nghylch yr olaf. Nid yw hysbys trwy ba offerynau y dygwyd yr Efengyl gyntaf i ddinas fawr Rhufain, na phwy a fu yn foddion i sef- ydlu yr Eglwys Gristionogol gyntaf yno. Ond gall ymddangos, fel y sylwa Milner, fod anfeidrol ddoethineb wedi apwyntio yn fwriadol,i'n hanesion cyntaf o Eglwys Rhufain, fod yn anmherffaith, er mwjjn dadymchwelyd yr honiadau beilchion a tlirahaus y mae ei Hesgobion wedi eu gwneuthur i oruchafiaeth a llywodraeth gyffredinol ar sail ei sylfaeniad gan Pedr a Phauì, ac olynol ddilyniad ei Hesgob- ion oddiwrthynt hwy hyd ein djrddiau ni. Arnynt liwy y gorphwys baich }• prawf, gan mai hwy sydd yn sefyll mewn anghen am dano, a mwy nag a fedrasant erioed eto, a mwy nag a fedrant byth ei wneuthur, yw profi fod Pedr erioed yn Rhufain. A phe medrent brofi hyny, yn y modd cadarnaf, ni roddai eu prawf y sail leiaf i'w honiadau afresymol hwy, i lywodraethu ar eglwysi ereill. Oblegyd bu Pedr a'i agoriadau gydag ef yn Ieru- salem, yn Samaria, yn Lyda. yn Ioppa, yn Cesarea, ac yn Antiochia, a manau ereill yn gystaì íäg yn Rhufain; ac ar y sail hon,y mae gan yr holl egìwysi hyny hawl i ljTwodraethu ar Eglwys Rhufain, eystal ag sydd gan Eglwys Rhufain i lywodraethu arnynt hwythau; a gwell o gymaint ag y mae eu prawf hwy o fod yr Apostol yn eu trefi yn gadarnach, nag yw prawf Esgobion Rhufain ei fod yno. Y cwbl a wyddom am ddechreuad bor- euol yr eglwys hon yw, Fod dyeithriaid o Iluí'einwyr, Iuddewon a pìiroselytiaid yn Ierusalem ar ddydd mawr y Pente- cost, yn "synu ac yn rhyfeddu wrth glywed yr Apostolion a'u cyfeillion yn llefaru yn eu hiaith eu hnnain fawrion weithredoedd Duw." (Act. ii. 10—12.) A gellir meddwl mai rhai o honynt hwy a dderbyuiasant eiriau Pedr yn ewyllys- gar, ac a fedyddiwyd, ac a cliwanegwyd at yr eglwys yn Ierusalem; ac ar eu dychweliad i Rufain, a ddygasant yr Ef- engyl gyda hwy i'r ddinas hòno, gan eu ffurfio eu hunain yn eglwys yn ol cynllun yr eglwys yn Ierusalem, o'r hon yr oedd- ynt yn aelodau gwreiddiol. Bernir fod Paul wedi ysgrifenu y llyth- yr at eglwys Rhufain, yn y flwyddyn 58,' yn mhen pum' mlynedd ar hugain ar ol dydd y Pentecost. Yr oedd yr eglwys y pryd hyny mewn enwogrwydd mawr, a'i fì'ydd yn gijlioeddus trwy yr lioll fyd. (Rhuf. i. 8.) Eitìir mae yn debygol nad oedd un Apostol wedi bod yn eu plith, am fod Paul mor awyddus am dalu ym- weliad â hwy, a chyfranu iddynt ryio ädaivn ysbrydol, fel eu cadarnheid hwy, (Rhuf. i. 11.) y rhai mae yn debygol na chyfranid gan neb ond gan yr Apostolion