Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. MEDI, 1846. 3BTET(8M$îDID&W MW<D©I©H ¥& atë&WO MENNO SIMON. Menno Simon, oedd adfywiwr tra nod- edig, ar achos yr Hen Fedyddwyr, ar gyfandir Ewrop, yn nechreuad yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd efe yn gyd- oeswr a'r enwog Martin Luther, ond ei fod yn ieuengach o dair blynedd ar ddeg, yn ol cyfrif rhai, neu ddwy flynedd ar hugain, yn ol cyfrif ereill, na'r diwygiwr enwog hwnw. Yr oedd efe yn enwog anarferol am ei hunan-ymwadiad, ei dduwiol-frydedd, ac am ei ymarferiad dichlynaidd o'i ddyledswyddau crefydd- ol; yn ol llythyren pregeth Crist ar y mynydd. Yn hyn yr oedd yn rhagori ar y Lutheriaid, yn llawn cymaint ag y rhagorent hwythau ar y Pabyddion. Yr oedd yn cyduno mewn athrawiaeth â'r diwygwyr yn gyíFredin, ond yr byn a'i hynodai oedd, ei ymdrech i ddwyn yr athrawiaeth hòno i ymarferiad manwl, yn mhlith ei frodyr. Ac yn hyny, efe a fu yn llwyddiannus nodedig. Ond y gof- id mawr yw, yr oedd duwioldeb efengyl- aidd, yn ol llythyren pregeth Mab Duw, yn beth na oddefai y byd ei arferyd, ac na allai ond ychydig o'r crefyddwyr ei oddef, yn y dyddiau hyny; os ydynt yn we]] yn awr, mawr yw eu braint. Caf- odd Menno brawfiadau gofidus ar hyd ei oes, "Os myn neb fyw yn dduwiol, yn Nghrist Iesu, efe a erlidir." Mae yr hyn a wyddom o'i hanes bersonol ef ei hun, yn fyr fel y canlyn :— Ganwyd ef mewn pentref o'r enw Wit- marsum, rhwng Harlinger a Bolswaert, nid yn mhell o Francker, yn nhalaeth Fuisland, yn y flwyddyn 1496, fel y dy- wedir yn gyffredin, ond myn Mosheim, a rhai ereill, mai yn y flwyddyn 1505, y ganwyd ef. Yr hyn mae yn debyg sydd fwyaf cywir; felly nid oedd ond deuddeg mlwydd oed pan y torodd gwawr y diw- wygiad ar Germani. Nid oes genym ddim yn cael ei adrodd yn ei gylch, nes yr aeth i'r weinidogaeth yn yr eglwys Babaidd, yn y bedwaredd flwyddyn ar hugain o'i oedran, sef yn y flwyddyn 1528 neu 1529. Am ei amgylchiad y pryd hyny, nid oes modd cael gwell hanes na'r hyn a ysgrifenodd ef ei hun, mor syml a dirodres, yn ei atebiad eglur i Gellius Faber, yr hwn a'i cyhuddai o dderbyn ei grefydd oddiwrth wallgofion Munster, a phethau ereill. Ac mewn amddiffyniad iddo ei hun, yr ysgrifenodd fel y canlyn :— " Fy narllenydd, yr wyf yn ysgrifenu atoch y gwirionedd yn Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd. Yn fy mhedwar- edd flwydd ar hugain y dechreuais ar y swydd Offeiriadol, yn mhentref fy nhad, yr hwn a elwid Pingium, 11 e hefyd yr oedd dau ereill, o gylch fy oed i, gyda mi yn cyflawni yr un swydd. Un oedd fy mugail, y llall oedd oddi tanaf. Y rhai hyn ill dau a ddarllenasant ychydig ar yr Ysgrythyrau, ond ni ddarfuasai i mi yn fy holl fywyd ymyraeth â hwynt. Canys yr oedd arnaf ofn, y buaswn trwy eu darllen, yn cael fy arwain ar gyfeil- ion. Gwel, bregethwr mor hurt a fuaswn am ddwy flynedd. Yn y flwyddyn nesaf, pa bryd bynag, ar yr offeren, y cyffyrddwn â'r bara a'r gwin, y meddwl a'm tarawai oedd, nid yw y rhai hyn yn llythyrenol yn gorph a gwaed Crist. Ar y dechreuad, medd- yliwn fod y meddwl yn dyfod oddiwrtb satan, yn ceisio fy hudo oddiwrth y ffydd. Mi a'i cyffesais yn fynych gydag ochen-