Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. HYDREF, 1846. IBW(§I&!ID®AW MW©M®M IIE MIWII MENNO SIMON. (PARHAD O TU DAL. 103.) Er profi yn mhellach nad oedd efe wedi derbyn ei ddaliadau na'i ymarfer- ion oddiwrth y Munsteriaid, ond, i'r gwrthwyneb; ei fod wedi ymosod yn en lierbyn byd eithaf ei allu a'i ddylanwad; mae yn myned yn mlaen i adrodd y gofìd oedd ar ei feddwl wrth weled riiai o'r Hcn Fedyddwyr, yn cael eu hudo gan athrawiaeth Thomas Muncer a'i ddilyn- wyr, i ymadael ur licn atìirawiaeth a ar- ddelasid ganddynt, yn ngbylch natur ysbrydol teyrnas Crist; yr anmhriodol- deb o dynu y cleddyf o'i phlaid, yn nghyd âg amryw bethau o'r un natur. Er galluogi y darllenydd Cymreig i ddeaìl Menno yn y peíh hyn, gwybydd- ed fod dau fatb o bobl yn cael eu galw yn Ail-fedyddwyr yn y dyddiau byny. Un matb ag oedd yn hanfodi o'r decb- reuad, ac y dywed Mosheim "fod eu dechreuad wedi ei gladdu yn nyfnder- oedd pellenig hynafiaeth." Am y rliai hyn y dywed ysgrifenydd yPertny CycJo- pedia, o dan y gair Bedyddwyíî, fel y canlyn:—"Y ddadl yn ngbylch Bedydd a ddygwyd ger bron amryw o gynghor- feydd, yn y pumed canrif, y rhai a rodd- asant eu penderfyniad o du bedydd ba- banod. Ac am hyny, y golygiad gwrth- wynebol a anathemateiddiwyd, a'r rhai a ymlynasent wrtho, a dynasant arnynt eu hunain y cospedigaethau a gysylltid â heresi." Cyfeirir at y ddadl yn nghylch bedydd yn ysgrifeniadau amryw o'r tad- au, a rhai o honynt ni phetrusasant, er y deddfau a'r penderfyniadau a wnaed yn y Cynghorfeydd, i gondemnio bedydd babanod fel ymadawiad oddiwrth yr Ys- grythyr, ac arferiad foreuol yr eglwys. Ni ddarfu i'r ymraniad, (o Eglwys Groeg) yr hwn a barodd y fatb ymad- awiad oddiwrtb Eglwys Ilbufain, yn y nawfed canrif, symud yr achos o'r ddadl yn mhertìiynas i Fedydd; ond i'r gwrth- wyneb, cynnyddwyd hi trwy yr ymddyg- iadau anoddefgar a arferwyd tuag at y rhai na chymerent eu dystewi. Wedi eu gyru o fynwes eu cymundeb eu hunain, cymerasant eu noddfa yn Eglwysi y Wal- densiaid, yn NyíFrynoedd Piedmont; ac mewn amser diweddarach, a ymunasant â sectiau anfoddog ymneillduedig yn Germani a Fflanders; yn mhlith y rhai yr hauasant hadau eu hathrawiaeth eu ímnain. Y sel, gyda yr hon y llafurient i ledaenu eu golygiadau, yn unig a'u gwnai hwy yn nod mwy amlwg i erledig- aeth. Carchariad, alltudiaeth, neu farw- olaeth, oedd tyngied y rhai a barhaent yn eu hymlyniad wrth yr heresi hon. lloll ddychrynfeydd yr eglwys a alwyd yn mlaen i geisio diflbdd y golygiadgwrth- wTyneblyd hwn; ond mor gyflym yr oedd ei gynnyddiad oddi tan erledigaetb, fel y dywed Mosbeim, fod rhifedi y rhai a'u harddelent yn nechreuad y deuddegfed ganrif yn cyrhaedd i 800,000. (80,000) O'r amser hwn (dechreuad y deuddeg- fed canrif) hyd ddecbreuad y diwygiad; sef am dri chant o flynyddoedd, neu bed- war cant llawn; Germani oedd prif an- neddle diwygwyr y Bedyddwyr, ac oddi yno, gyda rhediad afon y Rhine, hwy a ymledaenasant dros Holand, &c. Gan eu bod fel hyn yn wasgaredig tros y rhan hyny o'r Cyfandir, yn yr hwn yr oedd