Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. CHWEFROR, 1847. BH<BJH3B3>©ATU BBW©<Blt©Kr ¥& BBilIS YK APOSTOL PAÜL. Gan fod yr Apostol Paul yn ddyn mor hynod, gosodwn ryw fiaslun o'i fuchedd ger bron ein darllenwyr. Llestr ethol- edig i ddwyn enw Mab Duw ger bron y Cenedloedd oedd y dyn hwn. Nis gwyddom paham newidiwyd ei enw o Saul i Paul. Nid yw tybiau y dysged- igon am hyn ond mympwyol a disail. Dywed Neander mai Saul oedd ei enw Hebreig, ac mai Paul oedd ei enw Groeg- aidd. Ganwyd ef o deulu crefyddol, ddwy fiynedd ar ol geni Crist; dyna, o leiaf, yw yr hen farn draddodiadol. Yn ei lythyr at Philemon, yr hwn, yn ol Lardner, a ysgrifenwyd B.A. 62, geilw ei hun, "Paul yr hynafgwr;" o herwydd, yn ol y dyb hon, yr oedd efe tua 60 oed y pryd hyny. Tybir iddo gael ei argy- hoeddi B.A. 36, sef yn y 34 flwyddyn ô'i oedran. Dyna farn Neander, Hug, &c, er fod ereill yn amrywio yehydig yn hyn. Lle ei enedigaeth oedd Tarsus yn Cili- cia, dinas nid anenwog o herwydd ei sef- yllfa, ei maint, ei phoblogrwydd, a'i dysgeidiaeth. Anfonwydefi Ierusalem i dderbyn ei addysg wrth draed Gamal- iel, pan o 10 i 13 mìwydd oed, a bu yno tuag ugain mlynedd. Cynnyddodd mewn dysgeidiaeth Iu- ddewig, tu hwnt i bawb o'i gyfoedion. Yr oedd ei ddawn a'i hyawdledd mor nodedig, nes y tybiwyd yn Lystra mai ' duw ffraethineb ydoedd. Ni chytuna dysgedigion yn nghylch helaethrwydd ei gydnabyddiaeth â llëenyddiaeth gen- edlig. Dywed Strabo fod trigolion Tar- sus yn rhagori mewn dysgeidiaeth Roeg- aidd, hyd y nod ar yr Atheniaid a'r Alec8andriaid. Celfyddyd neu grefFt Paul oedd gwneuthurwr pebyll: ond ni wyddom pa fath orchuddleni pebyll a weithiai, pa un ai lledr, ai rhyw lian, neu frethyn garw. Am ei lafur apostolaidd a'i farn grefyddol, darllener ei bregethau a'i ly- thyrau, yn nghyda'i hanes gan Luc, yn y Testament Newj'dd. Gwedi hyn o ragnodion, rhoddwn le i sylwadau addysgiadol ein Gohebydd o Lanllyfni, ar FYWYD YR APOSTOL PAUL. Y nod mawr y dylai pob Cristion ym- gyraedd ato jtw dilyn Crist. Y mae Crist nid yn unig wedi agor y ffbrdd i'n gwar- edu trwy ei farwolaeth; ond hefyd wedi dangos y ffordd i ni fucheddu a gweith- redu, trwy ei fywyd a'i esiampl. Fe ddylai pawb a fyddant yn proíFesu ef- engyl Crist, ymdrechu byw bywyd Crist- Dilynwr ffyddlawn i Grist oedd yr Ap- ostol Paul; fel y cjrfrj^w nyni a'i cawn yn fynych yn annog ei gyd-frodyr, gan ddywedyd, "Byddwch ddilynwyr i mi, fel yr wjrf fmau i Grist." Yn awr, ni a geisiwn daflu cipolwg ar fywyd crefydd- ol PAULyn ngoleuniyTestamentNewydd, gan ddangos rhai o'r pethau dymunol ydynt yn amlwg ynddo, y rhai a deilyng- ant gael eu hefelyehu gan bob Cristion. 1. Gallwn nodi ei ostyngeiddrwydd a'i hunan-ymwadiad. Ymddengys ei ostyng- eiddrwydd yn y dyb isel a goleddai am dano ei hun. Cj'frifai ei hun fel y penaf o bechaduriaid, ac fel y lleiaf o'r holl saint. (1 Tim. x. 15. Eph. iii. 8.) Cyfrifai achubiaeth ei enaid yn gwbl i ras Duw. (1 Tim. i. 14.) Yr un modd y priodolai ei holl lwyddiant gyda'r efengyl. (1 Cor.