Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. EBRILL, 1847. ìäuríirîiìiau Sníuogton jtr £g(iuüss. JOHN BUNTAN. Ysgrifenodd Joiin Bunyan, drì ugain o lyfrau, a chyfieithiwyd amryw o honynt i'r iaith Gymraeg, ac nid oes odid o gref- yddwr yn Nghymru heb wybod am enw yr awdwr, a darllen peth o'i waith. Eithr ni wyddom i'w fuchedd gael ei gosod o flaen y Cymry, oddigerth yr hanes a rydd Bunyan ei hun o'i fywyd mewn llyfr a alwai "Helaethrwydd o ras i'r penaf o bechaduriaid." Ysgrifenodd prif awd- wyr y Saeson, megys Scott ívimey, Philip, Hamilton, Mongomery, y Dr. Southey, y Dr. Cheever, &c, fuchdreithiau i'r " breu- ddwydiwr gogoneddus." Ganwyd John Bunyan, yn mhentref Elstow, ger Bedfford, yn yflwyddyn 162S. Eurych (tinJcer) tlawd oedd ei dad, a dygwyd yntau i fyny yn yr un gelfyddyd. Tybia rhai i'w deulu hanu o'r giwed fel- ynddu, a elwir Sipsiwns; eithr nid oes sail i hyny. Er fod ei genedl o'r radd ddistadlaf yn y wlad, eto yr oedd iddynt air da, fel pobl onest; ac er gwaethed y tyfodd John i fyny, nid ydyw, wrth ad- rodd ei hanes, yn priodoli dim o hyny i siampl ddrwg ei rieni. Pa fodd bynag, anfonwyd ef i'r ysgol yn fachgen, a dysgodd ddarllen ac ysgrifenu. Y mae dadl yn mysg ei fywgraflwyr yn nghylch ei nodwedd yn ei febyd, a'i ieuengtyd; darlunir ef gan rai fel y dyhiryn penaf ar y ddaear; tra y mae ereill, yn euwed- ig y Dr. Southey, yn ceisio dangos nad oedd ynddo ddim ond rhyw fân ddrygau fel bechgynach yn gyffredin. Gwir na thyfodd efe i fyny yn lleidr, oddi eithr chwiwio rhyw fân bethau gyda ei gel- fyddyd, nac yn feddwyn, neu odinebwr; ond un hynod oedd efe am dyngu a rhegu. cymeryd enw Duw yn ofer, hal- ogi dydd yr Arglwydd mewn ofer-gamp- au, dawnsio, canu clychau, &c. Yn y pethau hyn yr oedd efe yn rhemp, ac yn ddiareb yn nghylch ei gydnabyddiaeth. Nis gellid dysgwyl i fachgen o athrylith Bunyan wneyd dim fel un arall, yr oedd gwreiddioldeb hyd y nod yn ei regfeydd. Nid oedd ei gydwybod yn dawel yn nghanol ei ddifyrwch pechadurus; dych- rynid ef yn fynych â breuddwydion, a brawychid ef â gweledigaethau. Pethau arswj'dfawr ac ofnadwy, aruthr a dieithr- ol, a feddyliai efe am dano yn nghwsg ac yn effro, megys uffern yn agor ei safn i'w lyncu, y farn fawr ddiweddaf, neu ryw- beth am boenau y colledigion, ac ys- tranciau y cythreuliaid. Lletyodd un waith feddwl mor ddychrynllyd ac an- nuwiol ag y dymunai fod yn gythraul, ac nid yn ddyn, fel y gallai boeni ereill, yn Ue cael ei boeni. Yn y rhyfel cartrefol rhwng y brenin a'rsenedd,ymrestroddBuNYANynmydd- in 01iver Cromwel. Dygwyddodd hyn tua y flwyddyn 1645, pan oedd ef yn 17 mlwydd oed. Pan oedd y fyddin yn myned i warchae ar Leicester, deisyfodd un arall gael myned yn lle Bunyan, ond saethwyd hwnw yn farw, pan ar y wyl- iadwriaeth, ac felly arbedwyd yr eurych ieuanc. Nis gwyddom pa hyd y bu efe yn filwr, ond diau i'r w}rbodaeth a gaf- odd o ystranciau milwraidd y prydhyny, fod yn gynnorthwyol iddo i ysgrifenu "y