Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD, MEHEFIN, 1847. Htogfgtotot&etlu RHAGOROL FFYDD MOSES, "Trwy ffydd, Moses, wedi niyned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh; gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist, na thrysorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni Uid y breninj canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." —Heb. xi. 24—27. Yr oedd Moses yn ei amser yn rhagori raewn fFydd a duwioldeb, ar bawb yn Israel: "Ac ni chododd prophwyd eto yn Israel megys Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wryneb yn wyneb," &c. (Deut. xxxiv. 10. Ios. i. 17. Salm ciii. 7. ler. xv. 1. Mal. iv. 4. Luc xvi. 29. Ioan v. 49. Luc xxiv. 27. Heb. iii. 2. 5.) I. Rhai sylwadaic ar weithredoedd ffydd Moses. II. Defnyddìo y cyfryw sylwadau mewn ffordd gymhwysiadol. 1. Gwrthod cae.l ei alw yn fab merch Pharaoh, gwrthod enw mawr yn y byd, er mwyn cael enw yn eylwys Dduw; am fod yr enw hwnw yn enw tragywyddol. " Ië, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meib- ion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragywyddol, yr hwn ni thorir ymaith." (Esai. lvi. 5.) Er fod Moses yn debyg i fod yn frenin yn yr Aipht, fel y dywed yr Iuddewon; eto yr oedd enw yn nhỳ Dduw yn fwy nac enw brenin yn ei olwg. Ac y mae ei enw yntef yn ber- aidd hyd heddyw, pan y mae enw y drygionus yn pydru. " Coífadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig; ond enw y drygionus a bydra." (Diar. x. 7.) 2. Gwelwn mai nid yn ei fabandod ai anwybodaeth, y gwrthododd ef fod fel màb mer'ch Pharaoh, ond gwedi dyfod i'w lawn oed. "A bu yn y dyddiau hyny, pan aeth Moses yn fawr, fyned o hono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beich- iau hwynt, a gweled Aiphtwr yn taro Hebrewr, un o'i frodyr," &c. (Exod. ii. 11. Act. vii.23.) Yr oedd ef gwedi cael digon ar lys Pharaoh, ac nid oedd un lle wrth ei fodd ond eglwys' Dduw, felly y mae pob duwiol. " Canys gwell yw di- wrnod yn dy gynteddau di na mil: dew- iswn gadw drws yn nhý fy Nuw, o fiaen trigo yn mhebyll annuwioldeb." (Salm lxxxiv. 10.) 3. Yr oedd ei waìth yn gwrthod yfath anrhydedd, ynprofi gwirioncdd ei ffydd; canys y mae natur yn ymofyn mwy am fawredd bydol naphethau ysbrydol. "Am hyny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pba beth yr ymddilladwn?" &c. (Math. vi. 31. Lu cxii. 19—22.1 Ioan ii. 10.) 4. Dewis adfyd pobl Dduw o fiaen mwyniant amserol pechod, Yr achos o hyny oedd, (1.) Oblegyd fod Duw gyda'i bobl yn eu hadfyd, ond nid oes dim o hono i'w gael yn y mwyniant pechadurus. "Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy greawdwr di, Iacob, a'th luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di; gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thij a thrwy yr afonydd, fel na lif- ant drosot: pan rodiech trwy y tân, ni'th losgir; ac ni enyn y fflam arnat," &ç.