Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAI'DD. GÖRPHENAF, 1847. Burftrbíiau Snfn'dflion %t %,%lto&$. JOHN THOMAS, YR EFENGYLYDD CYNTAF YN BENGAL. Yn mhlith cyfres o fywgraffiadau cyf- ieithwyr ffyddlon ac enwog yr Ysgryth- yrau Santaidd i wahanol ieithoedd yr India Ddwyreiniol, â pha rai y bwriad- wyf anrhegu darllenwyr y Tyst Apos- tolaidd, y mae y flaenoriaeth o ran amser, yn disgyn yn gyfiawn i ran bywgraffiad yr anturiaethwr enwog a duwiol uchod, John Thomas. Honai y diweddar Mr. Joseph Harris, Abertawe, ar sail ei enw, fod y gwr hwn yn hanu o waedoliaeth y Cymry; ac felly fod y Cymry, megys mewn llawer o bethau ereill, felly yn y gwaith o Efengyleiddio y byd, wedi cac 1 y fraint o flaenori ar y Saeson, drwy weled gwr o'u gwaedol- iaeth, os nid o'u hiaith, yn sengu ar y maes Cenadol hwn yn mlaenaf oll. Os felly, Gymry! na fyddwn ar ol yn ein hymdrechiadau selog o blaid y Genad- iaeth! Ond gan nadbeth a ellirei ddy- wedyd o berthynas i waedoliaeth Gym- roaidd John Thomas, mae yn amlwg fod iddo enedigaeth ragorach na gened- igaeth o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, sef genedigaeth o Dduw, drwy air y gwirionedd, yr hwn sydd yn by w ac yn parhau yn dragy wydd; ac felly ei fod yn frawd ar sail well na gwaedoliaeth, ac am hyny yn galw am ein teimladau a'n serchiadau santeidd- iedig, o blaid yr achos yr anturiodd ef ato gyntaf. John Thomas, yr Efengylydd, oedd feb i Mr. Thomas, diacon parchus a defnyddiol 'yn eglwys y Bedyddwyr yn y Rhyd-deg, (Fairford) swydd Caerloew. Cafodd, yn ol ei dystiolaeth ei hun, ei fagu a'i feithrin yn addysg ac athraw- iaeth yr Arglwydd, yn ofalus a diwyd o'i febyd; ond parhaodd yn fab diobaith am hir amser. Er nad oedd heb brofi argyhoeddiadau dyfnion a mynych yn ei ieuengtyd, eto gwrthsafai a diffoddai y rhai hyny yn egniol, fel y gwna llawer o blant proífeswyr a dysgyblion yr Ys- golion Sabbathol hyd y dydd heddyw. Megys y mab a ddywedai wrth ei dad yn haerllug, nad a'i i weithio i'r winllan : ond, diolch! daeth wedi hyny heibio iddo, ac efe a aeth yn gyntaf i winllan fawr Hindostan, ac a weithiodd yn egniol ynddi hyd fachludiad haul ei fywyd. Cafodd y brawd hwn ei ddwyn i fyny yn Llawfeddyg, yr hyn a fu yn achlysur iddo gael ei alw i'r maes Cenadol y llaf- ui'iodd ynddo yn egniol wedi hyny. Ond mae yn ymddangos yn debyg iawn oddi- wrth rai o'i lythyrau, ei fod ef megys llawer o wŷr ieuanc o'r un alwedigaeth, wedi myned mor belled mewn annghred- iniaeth, ag amheu y Bôd o Dduw. Ond bu y teimladau digysur a lanwai ei fyn- wes, tra yr oedd o dan ddylanwad yr annghrediniaeth hòno, o dan oruwchre- olaeth Duw, yn focldion i'w ddwyn i dosturio a chydymdeimlo â'r cyfryw ag oedd heb Grist, wedi eu dyeithrio oddi- wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth ammodau yr addewid, heb ob- aith ganddynt, ac heb Dduw yn ybyd; bu y gwasgfeydd dyclnynllyd a ddyodd- efodd yn ei argyhoeddiad, yn foddion i'w ddysgu pa fodd i lefaru gair yn ei