Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. HYDREF, 1847. aSutiufcfcau fSntoogton %v i;glto£g* DAVID GEORGE, PREGETHWR DU, A'R EFENGYLWR CYNTAF YN SIERRA LEONE, YN NGORLLEWIN AFFRICA. Wedi anrhegu ein darllenyddion âhan- es byr, ond anmherffaith iawn, o fywyd yr hygof John Thomas, rhagarweinydd ein Cenadon i feusydd eang y Genadiaeth yn Hindostan; gobeithiwn na fydd yn annerbyniol ganddynt, nac yn anfuddiol iddynt, gael eu hanrhegu â golwg fèr ar un arall, oedd yn gydoeswr âg ef, yn weinidog i'r Bedyddwyr, ac yn rhagar- weinydd anfwriadol fel yntau i'w Cenad- on i faes ëangarall, sef Gorllewin Affrica, i blith meibion duon Ham. Ond cyn y i-hoddom ei hanes ef ger bron ein darllenwyr, anghenrhaid i'w dy- wedyd ychydig am y lle ei hun, sef, Sier- ra Leone. Mae yr enw hwn, yn y lle cyntaf, yn sefyll am wlad Ued ëang, yn y rhan Orllewiuol o Guinea. A elwidíelly am ei bod yn un fynyddig, ac am y meddylid gynt, fod y mynyddoedd hyny yn llawn o lewod; ond yr ydys yn sicr yn awr, nad yw y bwystfilod hyny yn bodoli yn y wlad hon oll. Mai y tymhor «irlyb yn parhau ynddi o fis Mai hyd ydref, y tymhor hwn a ddechreuir gydi stormydd mawrion. Mae y rhanau sydd yn cael ei drin o'r tir yn dra ffrwythlon. Ond yn yr ystyr yr arferwn ni yr enw Sierra Leone, mae yn arwyddo Trefedig- aeth Frutanaidd, o Negroaid, wedi eu cymeryd oddiar y Caethfasnachwyr, o fewn i r wlad uchod. Nid oedd y tir a bwrcaswyd ar y dechreu, ond deg milldir ysgwar, ar yr ochor ddeheuol i Afon Sier- ra Leone, mae ei sefyllfa leol yn dra chyfleus ì fasnach. Mae yn yinddangos fod rhyw feddyliau am sefydlu Trefedigaeth Affricanaidd mewn golwg, gan ryw ddaroganwyr yn Lloegr, mor foreu a 1780; abodcynllun sefydlog o hono wedi ei dynu gan y Dr. Smeathman yn ei lythyrau at y Dr. Knowles, yn 1783. A bod rhai amgylch- iadau wedi cymeryd lle yn fuan wedi hyny, ac a alwodd sylw neillduol y cyff- redin at y peth, yr hyn a fu yn achos o ffurfio y Gymdeìthas er dileu Caethfas- naeh, yr hon a ddygodd Mr. Wilberforce o flaen y Senedd, y naill flwyddyn ar ol y llall, nes y llwyddodd yn ei amcan o'r diwedd. Yn amser rhyfel America, tua'r flwydd- yn yr oedd y cyfryw gaethweision ag fuasent yn yrnladd o dan fanerau Lloegr, ar ddyfodiad yr heddwch, yn cael eu gyru i ynysoedd Bahama, ac i Nova Scotia, a rhifedi mawr o honynt yn ymgyrchu i Lundain. Daethant yn ddarostyngedig ac yn gydnabyddus â phob drwg yno. Nes y ftùrfiwyd cyfeisteddfod er eu hym- geleddu: ac o'r diwedd anfonwyd tua 400 o dduon, a 60 o wynion, y rhan fwy- af o'r olaf oeddynt ferched drwg, i Sierra Leone, lle y cyraeddasent Mai 9, 1787. Ond erbyn y Medi canlynoì, yr oedd y Drefedigaeth wedi cael ei dwyn i 276 drwy farwolaethau, ac enciliadau; par- haodd yr enciliad i gynyddu nes y darfu i'r gweddill gael eu gwasgaru, a'r dref gael ei llosgi gan un o'r Penaethiaid Affricanaidd, yn mis Tachwedd, yn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1791, rhai o gyfeillion Aftrica a fíurfiasant Gymdeithas, yr hon a elwid Cwmpeini Cyfynfor St. George. DrWy ymdrechiadau y Gymdeithas hon, y casglwyd y Trefedigaethwyr gwasgar- edig cyntaf at eu güydd, ac y trosglwydd- wyd 1,200 o Negroaid rhyddion o Nova Scotia yno, ac yn mhlith y rhai olaf hyn yr oedd David George, gwrthddrych y cofiant hwn. Wedi arwain ei goffadwr- iaeth â'r ychydig nodiadau hyn am y Drefedigaeth, caiff ei hanes ei roddi o flaen y darllenydd, fel yr adroddwyd hi ganddo ef ei hun, wrth y brawd Rippon o Lundain, a'r brawd Pearce o Birming- ham:— . # » "Fe'm ganwyd," ebe ef, "yn swydd •$* j Essex, Virginia, o gylch 50 neu 60 o fill- • diroedd o Williamsburg, ar afon Notta* 2 c