Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

' ■ Y TYST ÁPOSTOLAIDD, RHAGFYR, 1847. îiurftcfcfcau línfoogton %v î&glfoa^ GEORGE LIELE, PREGETHWR DU, A SYLFAENYDD ACH08 Y BEDYDDWYR YB IAMAICA. "Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain ?"—Sech. iv. 10. " Ethiopia a estyn ei dwylaw yn brysur at Dduw."—Psalm lxviii. 31. Bu ynys Iamaica, am rai blynyddoedd, yn foddion i ddal i fyny feddyliau carwyr gwresocaf Cymdeithas Genadol y Bed- yddwyr: pan yr oedd eu ffydd yn cael ei Ehrofi, eu harian yn cael eu gwario, a'u ysbrydoedd yn cael eu llwfrhau gan annghrediniaeth yr Hindws, ac aflwydd- iant yr achos yn eu plith, yr oedd troi ac edrych ar yr Êthiopiaid yn yr ynys hon, yn estyn eu dwylaw yn brysur at Dduw, hyd yn 35,000 neu yn 40,000 o nifer mewn ychydig o flynyddoedd, yn destyn gor- foledd iddynt hwy, ac yn wrthddrych cenfigen i rai ereill. Ond y rheoleiddydd gorau ar nwydau dynion mewn pethau fel hyn, yw cofio njŵi yr Arglwydd a wnaeth hyn, ac mai rWyfedd yw yn ein golwg ni. " Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bych- ain?" Er gweled bys rhagluniaeth yn cyfeirio y Bedyddwyr at y maes toreith- iog hwn, ni a adroddwn ychydig o hel- yntion bywyd yr hen frawd defnyddioi Geouge Liele, wedi ei gasglu allan, gan mwyaf, o'i lythyrau ef ei hun. ^Ganwyf fi,"ebe fe, "yn Firginia, enw fy nhad oedd Liele, ac enw fy mam oedd Nancy: nis gallaf wybod ond ychydig am danynt gydag un gradd o gywirdeb, gan fy mod wedi cael fy nghymeryd yn ìeuanc oddi wrthynt i amryw barthau o America, ac wedi ymsefydlu o'r diwedd yn New Georgia: ond fe'm hysbyswyd gan ddynion gwynion a duon, mai fy nhad oedd yr umg ddyn dû ag oedd yn adnabod yr Arglwydd mewn ffordd ys- brydol yn y wlad hòno, y pryd hyny. Am danaf fy hun, yr oedd gradd o ar- swyd Duw yn natunol yn fy meddiannu o'm mebyd, ac yr oeddwn yn cael yn fynych fy attal yn fy nghydwybod â meddyliau yn nghylch marw, yr hyn oedd yn fy nghadw oddiwrth gyflawni llawer o bechodau, ac oddiwrth ddilyn cymdeithion drwg; ond ni wyddwn am un ffordd i obeithio am iechawdwriaetb, y pryd hyny, ond yn unig drwy wneuth- ur gweithredoedd da. O gylch dwy flynedd cyn deehreu rhyfel America, "y parchedig Mathew Moor, ar un Sabbath prydnhawn,fel yr oeddwn yn sefyll gyda chywreinrwydd i wrando arno, a ddad- guddiodd fy ngolygiadau tywyll, ac a agorodd fy ymddygiadau gorau, a'm gweithredoedd da, drwy y rhai yr oedd- wn i yn meddwl cael bod yn gadwedig; ac fe'm hargyhoeddwyd nad oeddwn ar yr iawn ffordd i'r nefoedd, ond ar gefn y ffordd i uffern. Buom yn llafurio o dan y teimladau hyn, am o bedwar mis i bump, neu chwech. Pwy fwyaf a wran- dawn neu a ddarllenwn, mwyaf eglur y gwelwn fy mod yn bechadur condemniol ger bron Duw; hyd oni arwciuiwyd fi o'r diwedd i ganfod fod fy mywyd yn crogi wrth edau fain a gwan, a phe rhyngasai fodd i Dduw fy nhori^yniaith yn yr amser hwnw, y buaswn ìiìor sicr o'm cael fy hun yn utì'ern a bod Duw yn y nef. Gwelais fy nghondemniad yn fy nghalon fy hun, ac ni chefais *xn fíbrdd yn yr hon y gallwn ddianc rhag damned- igaeth uffern, ond drwy rinwedd haedd- iannol fy Arglwydd a'm Hiachawdwr trancedig Iesu Grist yn unig; yr hyn a wnaeth i mi wneuthur fy erfyniadau ato am iechawdwriaeth i'm henaid tlawd. Ac yr wyf yn cofio yn eithaf da, fy mod wedi erf}rn ar fy Arglwydd.am iddo roddi i mi ryw waith i'w wneuthur, pa mor wael bynag, nid oeddwn yn gofalu, yn unig er profi pa mor dda y gwnawn ef." Pan y daeth yn adnabyddus o drefn iechawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, efe a brofodd ryddhad buan, 2 i