Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. MAWRTH, 1848. Btogfgtoíuiieth* DOETHINEB DÜW. 'O DDYFNDER GOLUD DOETHINEB A GWYBODAETH DtTW !"—Rhuf. XÌ. 33. Garedig Olygydd,— Canfyddais y nodion a ganlyn yn mhlith mân bapyrau a deflid genyf o'r neilldu er's amryw flyn- yúdocdd; os bernwch fod ynddynt duedd at fod o ddefnydd da i'ch darllenwyr, y niae i ehwi groeso i'w hargraftu yn y Tyst; neu os bernwch yn amgen, y mae i chwi yr un groeso i'w taflu i'r tân. Yr eiddoch, yn serchog, IORWERTH GlAN ALED. Mae yr apostol drwy y benuod hon wedi bod yn ystyried gwrthodiad yr Iu- ddewon, yn nghyda phriodoldeb a chyf- iawnder hyny yn ngwyneb daioni dwyfol; ac yn adnod y testyn, mae yn diweddu ei sylwadau mewn syndod mawreddig uwch ben doethineb a phrnarglwydd- iaeth Duw yn y cwbl oll. " 0 ddyfnder golud" mae yr apostol yn gweled golud doethineb a gwybodaeth Duw, oddiwrth ei ymddygiad at yr Iuddewon yn eu gwrthodiad: "gohtd," cyüawnder gwerth- fawr, eiddo anmhrisiadwy: " dyfnder golud," fod y cyfryw olud yn anchwil- iadwy, nas gellir ei blymio, na gweled eiwaelodion; mae yn suddo islaw ein cyrhaeddiadau perff'eithiaf, rywle i'r tra- gywyddoldeb mawr,.ac yn lledu ei gylch- oedd i'r anfeidroldeb anfesurol. Yn ol natur pethau gosodir gwybodaeth i flaen- ori doethineb: ond y mae yr apostol wedi gwneyd fel arall yma; os ystyriwn natur y ddwy briodoledd, canfyddwn y gweddusder o gyfleu gwybodaeth yn y flaenoriaeth: mae gwybodaeth megys yn sylfaen i ddoethineb; neu y mae yn anmhosibl i un feddu doethineb, heb feddu gwybodaeth yn gyntaf; maent yn gysylltiedig â'u gilydd, yn nj-giad pob gweithred o ciddo Duw oddi amgylch. O ran eu trefn, mae gwybodaeth yn gor- wedd yn y deall beirnìadol, a doethineb yn gorwedd yn y deall ymarferol; fel priodoliaethau yn Nuw maent yn cael eu gwahaniaethu fel hyn: ei wybodaeth yn gweled pob peth ar un olwg, ac yn eu dealì yn eu holl gysylltiadau; ei ddoeth- ineb yn eu llywodraethu a'u trefnu, eu cyfeirio a'u dwyn oddi amgylch i'w dy- benion priodol, er ei ogoniant ei hun. Gyda golwg gyffredinol ar ddoethineb, fe'i ceir yn yr hyn a ganlyn :— 1. Gweithredu gyda golwg ar ddyben. Dyben Duw yn mhob peth yw ei ogon- iant ei hun, ac nis gaîlai gael dyben uwch na chywirach; dyna ei ddyben mewn creadigaeth, " Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw." Dyna ei ddy- ben hefyd mewn iechawdwriaeth, " Er mawl gogoniant ei ras ef" 2. Golygu yr amser mmjaf priodaf. i u-eithredu. Yn nghyfla'&nder yr amseç y daeth Crist i'r byd, yn ol 'trefniad doethineb ddwyfol. 3. Ewyìlysio a gweithredu wrth reol; felly y mae Duw yn gwneyd, í(wrth gynghor ci ewyllys ei hun." Ond ni gaethiwn ein sylwadau presen- ol ar ddoethineb Duw yn unig:— I. Ei nhatur mewn dull neillduol. Mae o ran ei nhatur yn un â'i hanfod; nid peth a ddaeth i'w feddiant trwy janar- t^riad ydyw, ond y mae yn dragywyddol a hanfodol ddoeth. Mae doethineb yn Nuw,yn debyg i ddysgleirdeb yrhaul,sef yr un a'r haulei hun. Doethineb yw efe. Fel y mae ei fwriadau yn hysbys iddo er- ioed o ran eu bod, felly y maent o ran trefn; o ran eu bod yn hysbys iddo drwy ei hollwybodaeth, ac o ran eu trefn trwy ei ddoethineb. 1. Mae doethineb Duio yn un wreiddioì. Oddiwrtho ef y deillia doethineb i bawb; mae o anghenrheidrwydd yn wreiddioí yn Nuw; nid felly trwy ganiatâd, neu ymarferiad, canys nis gallasai fod yn berflaith Dduw,heb ei bod o wir anghen- rheidrwydd yn hanfodi ynddo; efe fel y Bôd cyntaf yn wreiddyn pob bôd arall, rhaid oedd iddo hefyd fod yn wreiddyn eu trefn,yn gystal a'u Bôd; ac fel y mae bôdpob peth wedi ei ddwyn oddi amgylch drwy ei allu, felly yr oedd doethineb yn dilyn y gallu yn nhrefniadau y cyfryw. Ni byddai gogoniant Duw o ran ei han- fod, yn gyflawn, heb ei fod yn ddoeth;