Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. MEHEFIN, 1848. Mttríirìi&au îírtluoat'on $v îíg!u)a»s. BENIAMIN KEACH. Ychydig a wyddom ni yn bresenol am helbulon a dyoddefiadau yr hen Fedydd- wyr yn Lloegr, tna 200 o flynyddan yn ol, pryd yr oedd John Bunyan, Thomas Delaune,Andrew Gilford, Hansard Knol- lys, Beniamin Kf.ach, &rc, yn dyoddef pwys y dydd a'r gwres. Ond " am y sect lion, y mae yn hysbys i ni fod yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn." Er dangos pa fath ysbryd a fynwesid tuag at y Bedyddwyr 200 mlynedd yn ol, digon yw crybwyll gwaith un Dr. Daniel Featley, fel enghraifft, yr hwn yn y flwyddyn 1644, a gyhoeddodd lyfr o'r enw "TheDippers Dipt,"fyc. Cyfenwa y gwr da hwn y Bedyddwyr, 1. Yn sect anllythyrenog a phenfeddw. 2. Yn sect gelwyddog a chableddus. 3. Yn sect aflan a chnawrdol. 4. Yn sect waedlyd a chreulon. 5. Yn sect halogedig a chysegr-ladronllyd. 6. Noda farnedig- aethau arswydus Duw a weinyddwyd ar flaenoriaid y sect hon. Dyna resymau pert dros fedydd plant! Yu yr oes chwerw ac erlidigaethus hon y ganwydBENi.sMiN Keach. Ganwyd y gwasífydlon hwn i Grist yn Stokehaman, swydd Buckingham, Chwefror 29, 1610. Dygwyd ef i wybodaeth y gwirionedd yn ieuanc, a hyny drwy ddarllen yr ysgryth- yrau, oblegyd bedyddiwyd ef pan yn bymtheg oed. Yn y flwyddyn 1658, gal- wydefiwaith y weinidogaeth, sef pan yn ddeunaw oed. Gan ei fod ef yn ddyn o feddwl grymus a gweithgar, tynodd sylw gelynion yr Anghydff'urfwyr ar ol adferiad y brenin. Argraffodd Hol- wyddoreg bychan yn y flwyddyn 1064, am yr hwn y cafodd ei erlid yn dost a chreulon; dedfrydwyd ef i bythef- nos o garchar—i sefyll yn y rhigawd (pillory) yn Aylesbury a Winslow—i'w lyfr gael ei losgi o flaen ei wyneb gati y y dienyddwr—i dalu £20 o ddirwy i'r brenin—i aros yn y carchar nes y caífai feichiafon yr ymddygai yn addas, ac yr ymddangosai yn y Sesiwn nesaf—yna i ymwrthod â'i athrawiaeth. Goddefodd yr holl gamdriniaetbau hyn yn amyn- eddgar; safodd ei wraig wrolfrydig yn ei yinyl yr holl amser y bu efe yn y rhig- awd, i'w gysuro, ac amddift'yn yr egwydd- orion dros ba rai y dyoddelai ei gwr. O! wragedd gweinidogion y Bedyddwyr, pa sawl un o honocb sy'n meddu ar ysbryd y wraig hon? Pechod y llyfr bychan a'i dygodd ef i'r trallod hwn, oedd gwadu bedydd mabanod. Yn fuan ar ol hyn penderfynodd ym- adael â gwlad ei enedigaeth a symnd i Lundain. Yn ganlynol, trodd ei fedd- iannau yn arian, ac aeth ef a'i wraig a'i blant o swydd Buckingham, yn y flwydd- yn 1668; ond ar y Ifordd ymosodwyd ar y cerbyd gan haid o ladron, ac ysbeil- iwyd y teithwyr o yr holl oedd ganddynt. Yr ocdd ganddo yn awr wraig a thri o blant, yn nghanol estroniaid, heb ddim arian. Ond gofalodd Duw am dano; aeth i Lundain, ac ymsefydlodd yn weinidog ar yr eglwys y bu Dr. Gill ar ol hyny yn fugail iddi. Gan fodMr. Keacii yn Fedyddiwr mor selog, dadleuodd, ac ysgrifenodd lawer ar y pwrnc o fedydd. Y Uyfryn cyntaf a gyhoeddodd ar y pwnc hwn a alwai " Rlteaymau Mr. Baxter dros Fedydd y Crediniol." Detholion o waith Baxter, er gosod Baxter yn ei erbyn ei hun, ac o du y Bedyddwyr oedd hwn. Yn y flwyddyn 1692, bu mewn dadl â Burkitt, periglor Milden, yn Suffblk, ac awdwr yr esboniad ar y Testament Newydd. Yr oedd eglwys o Fedyddwyr yn mhlwyf Burkitt, ac un Tredwell yn fugail arni. Yr oedd llwyddiant y brawd hwn yn an- oddefol i Burkitt; daetb i mewn i'w capet ar amser addoliad, a haid o'i blwyfolion gydag ef—areithiodd ddwy awr ar fed- ydd ìnabanod, ac ymadawodd heb roi lie i Tredwell i ddweyd gair drosto ei hun. Ar ol hyny, cyhoeddodd sylwedd ei ar- aeth dan yr enw, " Traethawd rhesym- iadol ac ymarferol ar fedydd mabanod." Dyma enghraift't o'i resymeg; cyhuddai Mr. Tredwell, o "osod ei hun i fyny yn y gymydogaeth i wneyd proselytiaid, a'u bailfedyddio mewn llyn ceffylau ffieidd-