Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. MEDI, 1818. Stogfgfctrtaetft* SWYDDOGION YR EGLWYS. Wedi ymdrin yn flaenorol ar y swydd- ogaethau oeddynt yn bodoli dros amser yn yr eglwys Gristionogol, eynnygiwn ychydig o sylwadau ar y swyddogaethau sydd i aros yn yr eglwys hyd ddiwedd amser. Mae yn hanfodol i fodoliacth eglwys Crist, fel pob cymdeithas arall, fod ynddi ryw ddosbarth o swyddogion, Iíeh hyn daw i ddiddymdra; a phe felly, diddymid yr unig offerynoliaeth a fwr- iadwyd gan Dduw i wasgaru gwirionedd- au yr efengyl dros y byd, ac i ddwyn i ben ei fwriadau grasol yn iechawdwriaeth plant y codwm. Nodasom yn barod mai rhan o waith yr apostolion, a'r efengylwyr yr un modd, oedd ffurfio yr eglwysi a godent yn yr amrywiol fanau dan eu gweinidogaeth, a gosod swyddogion arnynt i'w llywodr- aethu, i bregethu iddynt, ac i flaenori yn eu mysg. Cofied y darllenydd nad oedd yr apostolion na'r efengylwyr yn cymer- ydgofal yr eglwysi yn unigol, fel y gwna gweinidogion yn ein dyddiau ni, nac ychwaith yn ddosbarthiadol, fel y gwna esgobion yr oes hon. Mae yn wir fod y swydd weinidogaethol, fel ei gelwir, yn gynnwysedig yn swydd yr apostolion; hyny yw, yr oedd yr apostolion yn cyf- lawni pob peth sydd yn perthyn i'r wein- idogaeth. Yr unig wahaniaeth yw y dull y gweinyddent eu swydd, ac fod y swydd npostolaidd yn cynnwys mwy na'r swydd weinidogaethol.* Nid swyddogion av eglwysi neillduol oeddynt, ond, fel y nodasom yn ein sylwadau ar eu swydd, yr oedd gofal yr holl eglwysi arnynt hwy *üefnyddir yr ymadrodd gweinidogaethol am el fod yn fwy dealladwy yn yr oes hon. Esgobaethol fyddai yn fwy ysgrythyrol. yn gynnullol; nid oeddynt yn dal mwy o berthynas â'r naiU eglwys nag â'r llall. Gellir dweyd yr un peth hefyd am y prophwydi a'r efengylwyr. Ond ni ad- awodd yr apostolion yr eglwysi yn y cyflwr hwn. Fel swyddogion neilldued- ig gan Grist, sefydlent swyddau parhaol yn yr eglwys; ordeinient ddynion addas, wedi eu dewis drwy bleidlais yr eglwys i'wllenwi; cyflwynent i'r eglwysi hawl i drin eu materion eu hunain, a thros- glwyddent iddynt y cymeriad o gynnull- eidfaoedd annibynol. Wrth chwilio a chydmaru yr adnodau a gyfeiriant at y swyddau a sefydlid gan yr apostolion, ymddengys fod dau ddos- barth i fod yn yr eglwys hyd ddiwedd amser, sef esgobion neu henuriaid, a diaconiaid. Mae yn wir fod amryw enw- au ereill, megys bugeiljaid, athrawon, angylion,&c.,yn cael eu defnyddio i osod allan y swydd esgobawl; ond wrth chwil- io yr adnodau yn mha rai y dygwyddant, ceir gweled mai enwau neu deitlau ydynt am yr un swyddogaeth. Dyma yr unig swyddau a sefydlwyd gan yr apostolion i fod yn yr eglwys hyd ddiwedd amser. Am hyny Paul ar ddechreu ei lythyr at y Philipiaid a ddywed, "Paul a Thim- otheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yn Nghrist Iesu, y rhai sydd yn Philipi, gyda'r esgobion a'r diaconiaid." Nid oes yma ond y ddwy radd a nodasom yn cael eu henwi, ac nid oes un crybwyll- iad drwy yr holl lythyr fod yn yr eglwys un radd aralì. Amlwg yw, hcfyd, nad oedd yr esgobion hyu yn perthyn i radd esgobawl, neu breladaidd, fel eu gelwir, yn dal un math o debygolrwydd i'r hyn a elwir felly yn ein dyddiau ni; oblegyd pe felly, canfyddein luosawgrwydd o es-