Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. MEHEFIN, 1849. IACOB A'I FEIBION. Iacob ydoedd fab Isaac a Rebeca, a brawd Esau, yr bwn oedd yn efelliad iddo. Ganwyd ef yn y flwyddyn o O.B. 21fí8. Yr oedd llawer o wahaniaeth rhwng y ddau frawd hyn: yr oedd Esau yn hoft' iawn o hela, ond Iacob ydoedd ẁr esmwyth yn hoffi aros gartref. Un tro pan ddychwelodd Esau yn lluddedig o'i nelwriaeth, dymunodd ar ei frawd Iacob roddi iddo i'w yfed beth o'r cawl côch ac oedd wedi ei barotoi. Caniata- odd lacob hyny iddo ar yr amniod iddo werthu ei enedigaeth-fraint; yr hyn a wnaeth Esau. Gan mai efe oedd y mab hynaf, iddo ef yr oedd y rhan benafo gyfoeth ei dad i ddyfod; yr oedd hyn yn fraiiit enedigol. Gan fod Esau yn tybied ei fod ar farw, meddyliodd na fuasai yr enedigaeth-fraint o un lles iddo ef, am hyny fe'i gwerthodd i'w frawd. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, cafodd Esau orchymyn gan ei dad i fyned allan i hela, a gwneyd blasus fwyd iddo, fel ei brndithiai. Tra yr oedd Esau ymaith, llwyddodd Rebeca i dwyllo Isaac, yr hwn oedd yn ddall, trwy ba ddyfais y cafodd Iacob y fendith. Hysbysiad prophwyd- oliaethol oedd y fendi'th hon o'r hyn fyddai lacob a'i had mewn amser dyfod- ol. Cyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd Isaac 1 ddweyd yr hyn fyddai ei feibion; ac nid oedd yn ei aílu ef i alw yn ol yr hyn a ddywedodd. Gyda fod Iacob wedi cael y fendith, daeth ei frawd i mewn, a ìnawr oedd ei alar pan ddeallodd yr hyn oedd wedi cymeryd lle: dyrchafodd ei lef gan wylo, a dweyd, "Bendithia fi, ie, finau fy nhad." Ond nis gallsai Isaac ddadwneyd yr hyn oedd wedi ei gwblhau. Llidiodd Esau yn fawr am hyn, a phen- derfynodd yn y fan, gan i Iacob ddwyn ei fendith efy dygai yntau fywyd lacob. Mewn canlyniätì, gorfu i Iacob, wedi ei ánnogi hyny gan ei rieni, ymadael a mynedat Laban brawd ei fam, i Meso- potamia;- Yr oedd Iacob yn awr tua 77 mlwydd oea. O'r diwedd, wele Iacob yn gorfod ymadaèl a Beerseba hofft ei anwyl dad, a'i siriol fam, gan ddechreu ei daith bell oddeutu400milldir, i Haran yn Mesopotamia. Tybiwyf fod Rebeca dyner-galon yn wylo, ac fod y dagrau tryloewon yn treiglo dros ruddiau Iacob wrth roi ftarwel i'w anwyl fam. Ond rhaid oedd ymadael! Er mor anodd, rhaid fl'arwelio! Gyda hyn, wele, Iacob yn ftbi gan fynych droi ei olwg yn ol tua yr hen drigfan hofflle y treuîiodd foreu ei oes. Yn y fan draw, safai Rebeca gan syllu ar ol ei mab nes aeth o'r golwg, ac yn ei hymyl safai yr hen batriarch Isaac, ond nis gallsai weled ei hoff blentyn yn ymadael á'i fro enedigol. Troent hwy yn ol i'w hanedd glud,—ond ymddifad o Iacob; a phrysurai yntau yn mlaen tua Haran, lle ei arosiad. Mor ddrylliog oedd ei galon yn awr, mor gystuddiol ei ysbryd, ac mor ofidus ei deimladau! O'r diwedd, yn flinderus gan ofid ac yn lludd- edig gan y daith, wele y dydd yn darfod, ìleni y nos yn ymdaenu dros y ddaear, a Iacob yn gorfod gorwedd er esmwythau ei boen. Nid oedd na châr na chyfaill yn agos i'w gysuro, ond yr oedd ganddo üduw yn y nefoedd yn gofalu am dano, gan ei dywys â'i ragluniaeth ddoeth. Tra y gorweddai Iacob ar y ddaear a'i ben ar y gareg, syrthiodd i afael cwsg y nos, ac wrth gysgu breuddwydiodd ei fod yn gweled ysgol ryfeddol yn cyrhaedd o'r ddaear i'r nefoedd. Gwelodd angyl- ion yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddi; canfu yr Arglwydd ei hun yn sefyll arni er arolygu y dramwyfa; a chlywodd ef yn dweyd y buasai gydag ef yn gofalu am dano, a rhoisai iddo ef y tir y gor- weddai arno. Parodd hyn gymaint o lawenydd i Iacob nes gwneyd iddo add- unedu gwasanaethu Duw, ei barchu, a'i addoli. Ac am iddo gael presenoldeb yr Arglwydd yno, galwodd y lle yn Bethel, sef tŷ^ Dduw. Ar ol hir ymdaith, cyr- haeddodd Iacob dŷ ei ewythr Laban, yn Haran. Bu rhaglunìaeth ddyrus Duw yn dyner o hono yno; cafodd ffafr yn nhf Laban; ymrwymodd i fod yn fugail def- aid ei ewythr am saiíth mlynedd, ar yr amjnod ìddo gael Rahel yn -wraig; yr 17