Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ype Y TYST APOSTOLAIDD. IONAWR, 1850. UtojjCgìiìrtaetii. GOLYGIAD BYB, AR Y_CTFAMMOD NEWYDD. MM H. JONSS, RHUTHYN. Nis g.-dl y testyn liwn fod yn ddisylw gan neb o blant Duw. Y mae wedi bod yu bwnc ymchwiliad a dadlenon am- rywiol o ddysgedigion duwinyddol trwy boll oesau Cristionogaeth. Nid ydwyf yn gwybod fod y testyn bwn wedi cyft- wrdd âg ef yn y Tyst Apostolaidd, er ei gychwyniad hyd yr awr hon; ac nid ydwyf wrth ei gymeryd yn destyn i'r ys- grif hon, yn sicr y gallaf ei arddangos mewn modd eglurach nag y mae yn cael ei drin yn gyfiredinol; ond mi a wn fod yn anghenrheidiol dwyn rhywbethau yn fwy gweledig nag y byddant yn cael eu dangos yn gyffredinol, onidê fe erys tyw- yllwch parhaus ar y rlian ardderchog hon o'r dadguddiad dwyfol. Cynnygiaf sylwi arno yn y peth yw, yn ei ddeiliaid, yn ei wasanaeth crefyddol, ac yn ei addew- idion. Nid ydyw y gair Cymraeg cyfammod, (eydammod) yn cyfìeu y meddylddrych cyflawn perthynol i'r peth a elwir felly yn fynych yn y Beibl; mwy priodol ydy w y gair sefydliad. Árferir y gair yn aml am sefydliadau o eiddo Duw; paun a'i â phethau, neu â phersonau, megys cyfammod âg "anifeiliaid y maes," "â'r dydda'rnos, 'âgAbraham,Noa,&c. Ond yn neillduol, y sefydliadau hyny o eiddo Duw âg Israel trwy Moses, a'r sefydliad, neu y cyfammod newydd trwy Grist. Mae y gair cyfammod newydd yn cael ei ddefnyddio mewn cyfei-byniad i r hen gyf- ammod trwy Moses gydag Israeì, " Wele cyfammod newydd a wnaf â thý Israel a thŷ Iuda; nid fel y cyfammod a wnaeth- ym â'u tadau, yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn o dir yr Aipht." " Pan y dywedir cyfammod newydd, efe a farn- odd y cyntaf yn hen, a'r hwn aeth yn hen ac oedranus sydd barodi ddiflanu. Wrth y sefydliad, neu y cyfammod newj'dd, yr ydwyf yn deall y drefn a ordeiniodd Duw o'i ras mewn Cyfryngwr, i achub, i ymgeleddu, ac i lywodraethu pechadur- iaidjgan eu gwneuthur yn bobl briodol iddo ei hun. Mae y cyfammod hwn o Dduw yn gwbl,o ran ei darddiad,ei drefn, ei fendithion, a'i reolau. Wedi ei osodyn sefydliad mewn grym cyfreithiol,nis gell- ir ei newid, tynu oddiwrtho, na ehwan- egu ato, heb fod yn euog o wrthsefyll gosodiadau y Penllywydd bendigedig ei hun. Mae y cyfammod hwn, o ran ei natur, o ras i gyd oll. Nid anmhriodol y term "cyfammod gras"am dano, can- ys gras a'i trefnodd,gras a gyfrenir drwy- ddo, a gras sýdd yn teyrnasu yndda i fywyd tragywyddoî, trwy Iesu Grist ein ' ÍJnrglwydd. Nid oes dim dau betb yn cael eu gwahaniaethu yn fwy yn yr ys- grythyrau na'r cyfammodau hen a'r new- ydd. Un yn weinidogaeth angeu mewn llythyrenau, a'r 11a.ll yn weinidogaeth bywyd trwy yr Ysbryd;—un yn weinid- ogaeth damnedigaeth,y llall yn weinidog- aeth cyfiawnder. "Deddf a ddaeth trwy Moses; yras a yimrtonedd ddaeth trwy lesu Grist." Mi a nodaf ychydig o beth- au perthynol i'r cyfammod hwn. 1. Mae yn amlygiad o gymeriad grásol yr Hollalluogyn ei ymddygiadau tuagat y byd pechadurus hwn. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ei nniganed- ig Fab, fel na cholìer neb a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywydd- ol." Mae y cariad hwn at y byd yn an- feidrol, wrth ystyried anhaeddiant y gwrthddrychau, mawredd y rhodd, a gol- ud annherfynol y fendith sydd yn cael ei chynnyg i'r hwn a gredo yr hyn a ddysga ac a draddoda y Mab o ewyllys y Tad. 2. Mae y cyfammod hwn hefyd yn cyn- nwys gweinidogaeth cymmod i'r byd. " Pob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cym- modoad ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cym- mod; sef bod Duw yn Nghrist yn cym- modi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif ìdd- ynt eu pechodau." Swm y genadwri fendigedig hon at y byd yw, fod Duw yn maddeu pechodau, a hyny ar draul íbd