Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. CHWEFROR, 1850. Y DDAU GYFAMMOD. <Fan m. <£■ &airjellí5, fltolHjeH. "Am hyny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y petliau a glywsom, rhag un ams?r i ni eu gollwng hwy i golli. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anuí'- ydd-dod gyfiawn daledigaeth, Pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn iechawdwriaeth gymaint, yr hon. wedi dechr'eu ei thraethu trwy yr Arglwyrtd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef: a Duw hefyd yn cyddystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glán, yn ol ei ewyllys ei hun."—Heb. ii. 1—4. __ Mae yr apostol yn y llythyr hwn wedi gosod allan ;ic egluro yr holl hethau a berthynant i'r hen gyfammod, "fel cys- godau daionus hethau i ddyfod." Yn laf, Dengys fod holl seremoniau, aberthau, a chysgodau yr hen gyfammod, yn gys- godau o Grist, fel yr anfeidrol Aberth sydd i "dynu ymaith bechodau y byd." Yn 2il, Dengys fod holl swyddogion yr. hen gyfammod yn gysgodau o Grist yn ei swyddau Cyfryngol. Megys Moses, Iosua, Aaron, a Melchised.'c. Yn Sydd, Dengys fod Crist yn anfeidrol uwch na'r angylion; yn gymaint a'i fod ef yn Fab, hwythau yn weision ; efe yn Greawdwr, hwythau yn greaduriaid. "Canyswrth bwy o'r angylion y dywedodd efe un amser, Fy Mab ydwyt ti. Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oesoedd; teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di." Yn awr, os yw y Mab yn fwy na phawb yn y nefoedd a'r ddaear, ein dyled a'n rhesymol was- anaeth yw gwrando arno, yn tnna bethau bynag a orchymyno. " A Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrth- ym ni yn ei Fab." "Am hyny nyni a ddylern ddaì yn well ar y pethau a gly- buwyd." (Cyf. J. Williams.) Yn gym- aint a bod y llefarwr yn fwy, mae ei weinidogaeth yn ragorach, a'i chynnwys- iad yn bwysicach. " Nyni a ddylem ddal yn well," &c. Nid fy amcan yn yr ych- ydig linellau hyn yw ceisio gosod allan y gwahaniaeth sj'dd yn hanfodi yn eg- wyddorion y ddau gyfammod, eithr yn hytrach ychydig o barthed i gyhoeddiad y naill a'r llall. I. Sylwn ychydig ar gyhoedäiad yr hen gyfammod. Ystyr y gáir cyfammod yw, sefydliad, trefniant, neu osodiad; "Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angyl- ion," Src. Mae yma dri plieth: yn laf, Y llefarwyr,"angylion;" yn 2il, Y weinidog- aeth, "y gair;" yn 3ydd, Y gosb am an- ufydd-dod iddi, "cyfiawn daledigaeth." Yr hyn a ddeallwn wrth y "gair" yma, ydyw y gyfraith, yr hon a roddwyd ar Seina, i'r "genedl a ddygwyd o'r Àipht, ac o dŷ y caethiwed; gyda llaw gadarn ac â braich estynedig." Fe elwir y gyf- raith yma yn air, gyda golwg ar ei hun- olrwydd. Hefyd, yair Dnw, i'r dyben i ddangos ei phurdeb a'i sefydlogi wydd; ond yma yn air wedi ei roddi "írwy an- gylion:" oblegyd trwy drefniant y bodau giriicu. xoiítci, n pii w y uy "a^ ft i uuscuwui a ddyoddefai ei cbosbau angeuol, a hyny dan ddau neu dri o dystion; ac o her- wydd hyn ìnae yn debygol y gelwir hi yn "gyfiawn daledigaeth," canys nid yn ol byrbwylldra a nwydau y rheithwyr, (jury) yr oedd y troseddwr i gael ei brofì yn euog o dori y rheolau gosodedig, heb gael tystion digonol, a phrawfiadau eglur o'r trosedd a gyflawnwyd: gan hyny, addas a phriodol ei galw yn "gyfiawn daledigaeth." Rhoddwyd y gyfraith hon, "fel yr amlhai camwedd," i beri digof- aint, ac yn weinidogaeth damnedigaeth. Cynnwysai ddeg o orchymynion, pedwar o ha rai a ofalant am ogoniant y Bôd dwyfol, ac a eglurant ddyledswydd y creadur tuag at ei Greawdwr ; y chwech ereill a ddangosant ddyledswydd y naill ddyn tuag at y llall. Yr oedd amser ei rhoddiad yn dra arswydol, y mellt a'r taranau, a llais yr udgyrn yn hirllaes.