Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TYST APOSTOLAIDD. EBRILL, 1850. DAIONI DUW. «Fan fètn Seltant. Mae pob peth yn Nuw, er ei fod uwch- law ein hamgyffred, yn deilwng o'n myf- yrdodau dyfal a pharhaus; ond nid oes dim yn fwy feîly na'i anfeidrol ddaioni. Mae y Beibl yn dangos i ni nady w yr holl ddaioni sydd yn weledig yn mhob parth o'r greadigaeth, ond cynifer o ffrydiau grisialaidd o'r cyflawnder o ddaioni sydd yn yr hanfod Dwyfol. (Salm cxix. 68.) Mae y môr yn llawn dwfr, a deillia y gwlaw a'r afonydd o hono, dyfrliant y ddaear i beri iddi darddu a thyfu, fel y paro had i'r hauwr, a bara i'r bwytawr; felly y mae Duw yn dda yn ei natur, ac oddiar y daioni sydd ynddo yn wreiddiol y mae yn gwneuthur daioni i'w holl gre- aduriaid, er mwyn anrhydedd a gogon- iant ei enw goruchel. Daioni Duw yw ei dueddfryd perffeith- lawn i ddedwyddoli ei greaduriaid; hael- frydedd ei natur, a'i wir hyfrydwch mewn bod yn gymwynasgar ydyw, heb fod yn- ddo un gradd o gymhelliad i weithrecìu yn groesi hyny un amser.(Adn.l2.ìxxiii. 1. lxxxvi.5. xxv. 8. cxxxvi. 1.) Cawn olwg gyflawnach ar ddaioni Duw yn ei natur a'i effeithiau wrth ystyried yr am- rywiol enwau a roddir arno yn nghorph yr ysgrythyrau santaidd. Daioni Duw i'r anheilwng, a eìwir yn ras; ei ddaioni i'r amddifad a'r truenus, a elwir yn dru- garedd; ei waith yn cydymddwyn â'i greaduriaid yn ngwyncb eu calon.galed- wch a'u gwrthryfelgarwch yn ei erbyn,a elwir yn amynedd; ei hyfrydwchyn ned- wyddfyd ei greaduriaid,a elwir yn gared- igrwydd; a'i gymwynasgarwchrhadlawn i bawb heb olygu dim perthynol i natur eu cymeriadau, a eìwir yn ddaioni. Nid yw gras, trugaredd, amynedd, a chared- ìgrwydd, gan hyny, ond gwahanol ag- weddiadau Dwyfol ddaioni, cyfatebol i sefyllfaoedd neu egwyddorion y gwahan- ol fodau rhesyniol y mae a fyiio efe a hwynt fel Penllywydd y bydysawd. Mae daioni yn hanfodol yn Nuw. Am nad yw eulunod y Cenedloedd yn dda, nid ydynt yn dduwiau; y maent yn hoìlol anheilwng o'r enw. Ónd daioni yw ein Duw ni ynddo ei hun. " Dangos i mi dy ogoniant," medd Moses, "Mi a wnaf," medd Duw mewn atebiad iddo, "i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, achyhoeddaf enwyr Arglwydd o'th flaen di." (Ec'sod. xxxiii. 19.) Nid un briod- oledd ueillduol, y mae yn eglur, a amlyg- wyd i Moses, eithr hanfod gyflawn o dos- turi,haelioni,achymwynasgarwch.(Pen. xxxiv. 6, 7.) Mae Duw yn dda ynddo ac o hono ei hun; fel y mae yn hanfodi o anghenrheidrwydd, felly hefyd y mae yn hanfodi yn dda o anghenrheidrwydd, canys yr un yw ei hanfod a'i ddaioni. Dichon creadur fodoli wedi cyfnewid o dda i ddrwg, ond gan mai ei hanfod ac nid cynneddf, neu nwyd, yw daioni yn Nuw, pe cyfnewidiau o'r hyn ydyw, peid- iau a bod hefyd yr un amser. Pertt'aith ynfydrwydd yw meddwl am Dduw drwg. i)aioni a berthyna i Dduw yn unig. (Math. xix. 17.) Nid oes neb yn wreidd- iol ac anghyfranogol dda ond Duw. Pob daioni mewn creadur, deilliedig ydyw o'r môr o ddaioni sydd yn Nuw; am hyny, allefaru yn briodol, nid daiojii y creadur ydyw, ond daioni y Creawdwr, fel y mae yn ymddangos yn ngwaith ei ddwylaw. Ferffaith ddaioni yw Duw ynddo ei hun, heb fod ynddo ddim ond daioni; am hyuy y mae yn gwbl dded- wydd ynddo ei hun, ac yn hollol addaa i ddedwyddoli ei holl greaduriaid hefyd. Mae difíyg yn mhawb a phob peth ond Duw, am hyny, er i ddynion ymserchu mewn creaduriaid, a cheisio eu dedwydd- wch ynddynt, mae eu holi ddysgwyliad yn gwbl ofer.— " Nid oes dim ond twyll a gwagter, Yn y cyfan dan yr haul; Nid oes dim a leinw'm henaid, Ond trysorau Adda'r ail." Mae pob gwir ddedwyddwch yn deill- iaw yn unig oddiwrth Dduw, gwag a dar- fodedig yw pob mwyniant daearol. "Pa- ham, gan hyny," medd Duw, "y gwer- iwch arian am yr hyn nid yw fara, a'ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrandaw, gwraudewch arnaf fi, a bwyt- ewch yr hyn sydd dda, ac ymhyfryded eich henaid mewn brasder. Gogwydd- 11