Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. IONAWR, 1851. B Y R G O F IA N T AM Mrs. jane roberts, DIWEDDAR WRAItt Mr. William Roberts, Gwcinidog y Bedyddwyr, yv Fforddlas, Llansaniffraid Glan Conwy. Merch ydoedd Jane Robf.rts, i Dafydd Moses, ac Elisabeth Dayies ei wraig. Hi a anwyd Rhagfyr 26, 1810, mewn ffermdy a elwir Holant, yn mhlwyf Llan- dudno, swydd Gaerynarfon. Pan ydoedd tua chwech mlwydd oed, symudodd y teulu i ífermdy a elwir Pen yr orsedd, gerllaw Llamvydden, yn mhlwyf Llangystenyn, yn yr un swydd, lle y preswylia ei mam a'i dau frawd hyd yn bresenol. Mewn perthynas i'w dyddiau boreuoi, nid oes genyf i'w ddywedyd am dani ond iddi gael ysgói lled dda, yn benaf ysgol genedlaethol Llanrhôs, yn yr hon y bu am rai blynyddau. Darllenai Gymraeg a Saes'neg yn dda, ysgrifenai yn dda, ac yr oedd ganddi radd dda o wybodaeth mewn rhiíyddiaeth: hefyd }-n yr ysgol hon ca'dd fantais'i ddysgu <íwnio. Tra y bu yn- ddi, byddai yn arfer myned i eglwys y plwyf bob Sab- bath, yn ol y drefn; ac wedi iddi adael yr ysgol, yr oedd ganddi radd o sel dros yr eglwys, fel ac y bu yn myned yno yn gyson am tua blwyddyn drachefn gyda ei thad, yr hwn oedd }rn Eglwyswr selog tra y bu byw. lìyddai yn myned i'r eglwys yn y boreu, ac i'r capel am ddau a chwech gyda'r lleill o'r teulu, sef capel y Bedyddwyr yn Llanwydden. O'r diwedd gadawodd yr eglwys, a daeth