Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Ẁthronydd Pymreig (The Welsh Philosopher). Rhif 33]. MAI, 1893. [Cyf. IV. HAMDDEN YN NGORSAF EDIFEIRWCH. Cydymddiddan. \ THRAW,—Wel dyma ni yn ngorsaf edifeirwch, cych- /-\_ wyn y daith bwysig o'r byd i Grist, a'r Eglwys. Lle digon cyfyng a brawychus ydyw; ond diolch er hyny am y fraint o gael dyfod yma. O am gael nerth i fyned trwodd. Gwel Uygad têr gobaith ei bod yn llawer mwy hyfryd a dymunol, ie,yn gwella o hyd yn y blaen. DISGYBL.—Gan fod y daith a phob gorsaf ynddi yn wir bwysig, byddai yn dda genyf gael tipyn o gyfarwyddyd. Am hyny goddefwch i mi eich trafferthu âg ychydig ofyn- iadau. A, Oroesaw. Bydd yn bleser genyf eich ateb a'ch cyfar- wyddo, a hyderaf y byddwch ar eich mantais. D. Diolch. A oes mwy nag un math o edifeirwch? A. Oes. Dywed dysge'ligion fod yn yr iaith wreiddiol ddau air gwahanol, stî metanoia a metamelia, y rhai yn gyfìeithir i'r un gair Cymreig edifeirwch. D. Byddai yn dda genyf wybod y gwahaniaeth rhyng- ddynt. A. Ystyr metamelia yw tristwch am bechod, yn codi yn unig oddiai ofn y gosb a'i dilyna. Ac i ba le bynag yr edrychir, gwelir cleddyf cyfiawnder Duw yn grogedig ac ysgwydedig yn y blaen. Gelwir hwn weithiau gan yr hen