Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Athronydd Cymreig The Welsh Philosophei»). Rhif 40] RHAGFYR, 1893. [Cyf. IV. HUNÄN-FYWGRAFFIAD JOHN WESLEY (Yn seiliedig ar f.i Ddyddlyfr a'i lythyrau). MEWN Irefn i'w gyflwyno i'r darllenydd rhaid i ni sylwì ychydig ar Hanes ei deulu. Ganwyd John Wesley yn Epworth, swydd Lincoln, Lloegr, ar y i4eg o Mehefin, 1703. Ei dad oedd reithior y lle, ac yn ddyn dysgedig, a hynod fanwl mewn uniondeb. Ei enw ydoedd Samuel Wesley. Enw ruam John Wesleyydoedd Susanah, merch i Dr. Samuel Annesley, ac yr ydoedd yn wraig o synwyr a duwioldeb anghyffredin. Wele ddau gymeriad gwerthfawr wedi cydgyfarfod, dyn synwyrol. penderfynol, a gweithgar, wedi ei uno mewn " glan briodas " gyda merch bwyllog, feddylgar, ac fe ymddengys fod nodweddion y tad a'r fam wedi cydgyfarfod i raddau helaeth yn y mab. El ADDYSG FOREUOL. Y fam, Mrs Wesley ydoedd ysgolfeistres foreuol y plant. Cymerai ofal neillduol ohonynt, ac yn enwedig felly y bachgen John. Efallai fod y waredigaeth ryfedd a rhagiuniaethol a gafodd pan tua 6 mlwydd oed, wedi gadael effaith neillduol ar ei meddwl. Gwaredwyd ef fel y mae yn hysbys i'r darilenydd trwy fl'enestr, a thrwy i'r naill fyn'd ar ysgwydd un arall er ei gael allan, a syrthiodd y tô i'r ty cyn gynted ag y daeth y plentyn