Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr A.THRONYDD CyMR.EIG (The Welsh Philosopher). Rihf 42] MAWRTH, 1894. [Cyf. V. Y BEIRNIAID A'R FEIRNIADAETH UWCH- RADDOL. Dyma'r swn a'r twrw sydd wedi ei glywed yn ddi- weddar bron o bob cyfeiriad. Ysgrifenwyd, ac ysgrifenir yn barhaus ar ryw ganghen o'r testynau sydd yn dyfod driniaeth y boneddigion hyn. Proffesa'r Beirniaid hyn yn benaf i ymdrin a'r materion canlynol : Tarddiad, awdurdod, a dyddiadau amseryddol llyfrau yr Hen Destament. Honant wneyd ymchwiliadau i darddiad, a llygad y ffynon, ac am hyny, tebygol y galwant eu beirniadaeth yn " uwchraddol." Y gwirionedd ydyw nid oes ganddynt fwy o hawl i'r enw na'r beirniaid israddol. Honiadau tybiadol gan mwyaf ydyw sylfeini y boneddig- ion hyn i'r enw. Cymerant yn ganiataol lawer sydd eisiau eu profi. Gorsedd feirniadol y beirniad ydyw Rhesymoliaeth, aphob pwnc ddaw ger bron, os nabydd yn dyfod i fynu a'u rheswm safonol hwy, condemnir y cyfryw fel cyfeiliornad. Nyddant eu damcaniaethau allan ohonynt eu hunain, fel y pryf copyn yn nyddu ei wê. Derbynir ffeithiau y Beibl, ac hanesionyr Ysgryth- yrau, neu gwrthodir hwy yn ol fel y bydd mympwy fydd yn eu llywodraethu ar y pryd, Cymerwn un engraiff dan sylw heddyw. Dywedir am ysgrifen cyn, ac yn amser Moses, nad oedd y fath beth ac ysgrifen mewn bod, nad oedd neb yn gwybod dim am ysgrifen ac ys- grifenu. Fel hyn y dywed Schultz, yr amser cyn Moses, oedd yn amser blaenorol i bob gwybodaeth am ysgrifenu, yn amser mewn gwledydd diwylliedig pan oedd ysgrifenu yn dechreu cael ei arfer yn y materion