Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr A.THRONYDD CyMREIG (The Welsh Philosopher). Rihf 43] EBRILL, 1894. [Cyf. V. MIL AC UN O NODIADAU VSGRYTHYROL. GEN. i. 1. —" Yn y dechreuad y creodd Duw y nef- oedd a'r ddaear."—Dyma un o'r datganiadau mwyaf arddunol ac ardderchog a lefarwyd, neu a ys- grifenwyd erioed. Y mae pob gair sydd yn yr adnod fer hon yn llawn o feddwl, a hwnw y meddwl mwyaf dyrchatedig, oblegid cynwysa y geiriau wyrth drwyacl. Yr Hollwybodol yn toriy distawrwydd tragwyddol sydd yma, i roddi datguddiad o hono ei hunan a'i greadig- aeth, a'r modd y creodd efe hwynt, yn ogystal a'r a^can gogoneddus oedd mewn golwg wrth greu. " Yn y dechreuad." Arwyddai y gair " dechreuad" cyntaf penaf, pur. Nid oes y banod "y" i'ẁ gael yn y llythyrenol, yr Hebraeg, yr hyn sydd yn ein cario yn mhell, bell yn ol. Gall y daearegwr fyned yn ol faint a fyno, yn ol darlleniad Moses, filoedd o flynyddoedd, neu fiiiynau o flynyddau, os myn, cyn amser dyn ar y ddaear. Y mae yn bwysig i ddeall y gwahaniaeth sydd rhwhg "yn y dechreuad " yr adnod hon, ac "yn y dechreuad" loan i. 1 ; a'r " o'r dechreuad " yn adnod gyntaf Epistol Ioan. Golyga y frawddeg olaf hon waithgarwch y Gair mewn amser. gan gyfeirio at amser dechreuad y gwaith hwnw ; ond golyga "yn y dechreuad " Efengyl Ioan amser bodolaeth y Gair, ei fod yn bodoli " yn y dech- reuad," ac am hyny cyn y dechreuad "y creodd." Daw y gair " creu " o air sydd yn arwyddo tori, tori allan, neu ífurfio drwy dori, neu naddu, yna creu neu gyn-