Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ifftutgttn* mtfytuàU " Hir-hocdl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y uiae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 12.] IONAWR, 1839. "Pris Ceiniog. LLEDAENIAD DÍRWEST DROS CxYF- ANDIR EWROP. Cymmerodd boneddwr o America o'r enw Mr. Baird, daith drwy Ewrop er canfod yn bersonol gynnydd ac effeithiau y Cymdei- thasau Dirwestol yn y manau hyny lle j maent. A ganlyn yw ei Fynegiad :— Yn Mharis, yíir llawer iawn o win, yr hyn sydd yn creu ysgafnder yn meddyliau f bohl, ac yn rhwystr mawr i ledaeniad irefydd, a derbyniad argraffiadau crefyddol. Mae yr arferiad o yfed brandi ar gynnydd pno, er fod rhai yn diwygio ac yn arafu ^chydig. Mae son am Ddirwest drwy y ,vlad, ac yr oedd gyriedydd cerbyd, er iyndod i'w gyfeillion, gwedi troi yn ddirwest- vr, ac yn iachach nà phaa yfai wirod, er ei bd yn gorfod trafaelu yn aml ddwy noswaith )lynoI yn ddiorphwys. Yn ynysoedd Guernsey a Jersey, mae ^ymdeithasau Dirwestol hynod o flodeuog, lc argoelion lled gysurus arnynt. Yn Hamburgh, lle mae anghymhedroldeb n uchol ei ben, mae cryn gynhwrf wedi ei jreu gan Ddirwest. Yr oedd un bonedd- vr yn dra ffafriol i'r Gymdeithas, ond yr edd yn ddistyllydd gwirod, ac ni allasai yn ysson ag ef ei hun fod yn ddirwestwr ac n ddistyllwr ; gwedi cryn betrusder, cau- dd y ddistyllfa, ac yn awr efe yw llywydd Gymdeithas yno. Yn Denmark, gwelodd Mr. Baird y renin, yr hwn oedd yn ffafriol i'r sefydliad, nd ni wnaid dim yno etto. Yn Sweden, cafodd siarad â'r brenin, un hen gadfridogion Napoleon, yr hwn sydd redi eistedd ar orsedd y wrad hòno am gain mlynedd. Yr oedd y brenin yn wyddus iawn i'w ddeiliaid uno â'r Gym- eithas, a pharodd argraffu 1500 o draeth- Jau. Mae etifedd y goron yn bleidiol iawn i Ddirwest, ac wedi alltudio gwirod- ydd o'i dŷ. Yn y wlad yma mae gwirod yn fwy cyffredin nag un wlad arall yn Ewrop; eu prif wirodyw brandi wedi ei ddìs- tyllo o gloron, ac y mue eynnifer à 260,000 o ddistylldai yn y wlad; nid oes nemawr o fferm hebddistyllfa yn perthyn iddi; o'r rhai hyn gwnelid deugain miliwn o alwyni o frandi yn flynyddoî, ac yfid y cwbl gan driíîolion y wlad. Yr oedd yr arferiad o yfed mor gyffredin fel t.g y rhoddid gwydr- yn a chostrelaid yn ym> mordeithwyr yn yr agerdd-longau,i'w yíl". gyda boreufwyd, ciniaw, a swper, ac n: üheisid dim tàl yohwanegol, ond os ceisid Joffi, rhaid talu am hwnw. Yn Prussia mae peth u yn edrych yn siriolach. Yn Berlin bu Mr. Baird yn ym- ddyddan à'r brenin, yr hwn a ddywedodd ei fod yn barod i bleidio unrhyw fesur a dueddo i gynnyddu der' yddwch a chysur ei ddeiliaid. Argraffwyd 0000 o draethod- au, a gorchymynwyd eu danfoi at yr offèir- iaid, athrawon ysgolion, ac amryw ereill, fel y gellir dysgwyl cyn hir y bydd yn y wlad hòno gymdeithasau aml a blodeuog. Y mae ehwech eisioes gwedi ca sefydlu yn Berlin, y brif ddiuas. Dyw^dodd mab y brenin, er fod arian mawryn dyfod i'r llyw- odriteth drwy y gwirod ; otto. y buasai yn well ganddo ef i golli y cwbl. nâ bod cysur y bobl yn cael ei ddystry wio drwy eu hyfed. Yn Poland mae medd%vòod yn dra phen- uchel; yn wir, y mae yn ddiareb yn y wlad liòno, "Mor feddw à Phwylyn." Yn Warsaw cedwir y tafarnau gan Iuddewon bedyddiedig, ac ydynt yn Gristionogion mewn cnw. Nid oes uétÄawr wedi ei wneyd yma er sobri y trigolion ; ond hyderir nad yw'r amser yn neppell pan f'o Dirwest yn flodeuog yn mysg y Pwyliaìd dewrion.