Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. FFEETLLIAETH AMAETHYDDOL. Mae Amaethyddiaeth yn dal cysylltiad agos â'r gwyddorau naturìol, ac fe allai nad oes un gelfyddyd arall yn dal perthynas mor agos â chynifer o honynt a hi; er hyny, ychydig o amaethwyr a gysylltant wyddoniaoth â'r arferiad o honi. Tebyg mai y rheswm am hyn ydyw, fod yr arferiad yn rhwydd ac eglur; tra y mae efrydu'r gwyddorau cy- syUtiedig yn orchwyl caled a dyrus, yn enwedig i ddynion wedi cael ond ychydig o fanteision dysg, fel y mae llawer o'n hamaethwyr; ac heblaw hyny, dilynir Amaethyddiaeth yn y cyffredin fel celfyddyd hollol ymar- ferol; a chan ddynion nad ystyriant fod gan wyddoniaeth un cynorthwy i'w roddi er rhwyddhau ei dygiad yn mlaen yn llwyddianus ac enill- fawr. Cyfyd yr ystyriaeth yna oddiar ddiffyg rhoddi addysg amaeth- yddol i blant a olygir ddwyn fyny i fod yn amaethwyr, er y ca Uawer o honynt ysgol a dysg bur gyflawn mewn amryw bethau ereill. Mae bron pob amaethwr yn rhoddi ysgol i'w plant er eu gwneuthur yn hyddysg yn egwyddorion rhifyddiaeth, mesuryddiaeth, gramadeg, a darllen; ond esgeulusant eu hegwyddori mewn Amaethyddiaeth, yr alwedigaeth y byddant yn ymddibynu arni am eu bywioliaeth yn yr amser dyfodol. Mae rheolau gosodedig i ddysgu braidd bob celfyddyd araU ; ond mae Amaethyddiaeth, ar yr hon y dybjoia cysuron bywyd, heb na rheol na dysg—caifî yr amaethwr ieuanc efrydu cyfrif-lyfr mas- nachol, ond ni chaiff weled cyfrif-lyfr amaethyddol—caiff ddarllen Homer a Virgil, ond ni chaiff weled Liebig a Johnstone, Tull a Tusser. Dylid argraffu ar feddwl ein cydgenedl yn gyffredinol y priodoldeb a'r angenrheidrwydd i amaethwyr ddeall natur cyfansoddiad eu tyddynod eu cnydau, a'u hanifeiliaid, yn gystal a gwybod y drefn arferol o ym- drin â hwynt. Crefwn sylw manwl ein darllenwyr at yr ysgrif hon gan fod diffyg mawr o wybodaeth amaethyddol yn mhlith ein cj^d- wladwyr; a sicrhaAvn pe byddai amaethwyr yn fwy hyddysg yn y gwy- ddorau cysylltiedig ag Amaethyddiaeth, y caent anogaeth. a chalondíd i fyned yn y blaen mewn gwelliadau ymarferol. Ÿ gwyddorau a ddaliant y berthynas fwyaf uniongyrchol ao- Amaeth- yddiaeth ydyw, Mesuryddiaeth, Athroniaeth naturiol, Hanesiaeth naturiol, Meddyginiaeth, a FferyUiaeth. Y rhanau mwyaf defnyddiol o fefeuryddiaeth ydyw daiar-fesuriaeth (Geometry), a thrionglfeidraeth (Trigonometry) yn eu cymhwysiad i fesur arwynebedd a chyfane-yrff 2x