Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. PECHOD. Yr ydym yn ceisio sylw ein darllenwyr at un o'r pynciau mwyaf pwysig i feddu syniadau goleu a chywir arno; a hyny, nid yn unig o herwydd pwysigrwydd y pwnc ei hun, ond hefyd o herwydd y herthynas agos o angenrheidrwydd sydd rhyngddo â holl brif athrawiaethau Cristion- ogaeth. Barner yn fach am bechod, a bernir yn fach y gosb ddyledus am dano—yr aberth drosto—person Crist, gwerth y Beibl a'r dwyfol ddyian- wadau i ryddhau dyn oddiwrth awdurdod pechod. Un o brif weithiau glân Ysbryd Duw yw argyhoeddi o bechod ; ac ymdrechwn yn fyr i roddi ger bron ein darllenwyr yr hyn a ddysgir i ni yn y Gair Dwyfol am natur a chynydd pechod. Bu amser pan nad oedd peehod ; byddai yn dda genym allu ychwanegu y daw amser pan na fydd. Teimlwn weithiau rym yn y gofyniad, " Afydd i bechod fodolaeth ddi-ddiwedd yn ymherodraeth yr Hollalluog?" Ond erbyn edrych a chwalu y cwestiwn, gwelwn mai yr anhawsder yw cysoni bodolaeth pechod o gwbl, ac nid ei barhad, â phriodoleddau naturiol a moesol y Jehofa. Ond y mae peehod yn bodoli. Lluosog ac amrywiol ydynt y dulliau o gynyg cyfrif am ei ddechreuad, a'i ddyfodiad i'r byd. Y mae cynyg- ion lawer wedi eu gwneud; ond y maent oll yn fyr o roddi boddlon- rwydd i'r meddwl. Erys cydfodolaeth drwg a Duw yn ddirgelwch, mawr, yn dywyllwch teimladwy, fel nas gallwn fyned gam nes yn mlaen nag adrodd gyda gwyr y gymanfa, " Ein rhieni cyntaf, wedi eu gadael i ryddid eu hewyllys eu hunain, a syrthiasant o'r cyílwr y cre- wyd hwynt ynddo, trwy becbu yn erbyn Duw." Gadawn heibio bob ymchwil i'w ddechreuad, ac edrychwn ar ei natur ynddo ei hun, a'i ddadblygiad yn hanes pechadur. Olrheiniwn ei natur drwy sylwi ar rai o'r gwahanol enwau a roddir arno yn ysgrythyr y gwirionedd. 1. Anghyfraith. 1 Ioan iii. 4. Trosedd o ddeddf. Yna y mae yn canlyn fod deddfroddwr, amlygiad o'r ddeddf, rhesymau drosti, a rhwymau i roddi ufydd-dod iddi. Y deddfroddwr yw Duw—yr " un gosodwr cyfraith, yr hwn a ddichon gadw a cholli.'' Iago iv. 12, Ei ewyllys ef sydd ddeddf i'r holl fydysawd. Y mae ei ewyllys yn ddeddf i'r môr—i'r haul—i lewod yr anialwch ; yr elfenau a gydnabyddant ynddo eu Duw. Eelly hefyd y mae ei ewyllys yn rheol i ddynion ac angelion—creaduriaid rhesymol. Y mae Duw yn dywedyä wrth ddyn. Y mae ei ewyllys yn gyfraith am ei fod ef ei hun y peth yw—" Ynddo ef nid oes pechod." " Oni wna barnydd yr holl ddaiar farn ?" (yr hyn sydd iawn). Y mae efe ei hun yn ddibechod—yn berffaith—yn an- 3 i