Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. Y LOGOS—GAIB DUW. Mae Ioan yn nechreu ei efengyl yn defnyddio amryw ymadroddion a dueddant i gynhyrfu ymchwiliad neillduol pob meddwl ystyriol. Maent wedi tynu sylw yn mhob oes, ac yn ddiau tynant sylw mawr am oesau eto. " Yn y dechreuad." Pa ddechreuad a olygir ? Dechreuad pa beth? Dechreuad yr oruchwyliaeth efengylaidd, medd rhai. Dechreuad creadigaeth, medd ereill. Dechreuad cyn y greadigaeth, medd ereill. Gan nad hwn yw prif destyn ein myfyrdod yn bresenol, awn heibio at y nesaf. " Yr oedd y Gair," (Logos). Beth a olygai Ioan wrth y Logos ? Pa le y cafodd yr enw ? Yn mha ystyr yr oedd wedi cael ei ddefnyddio gan ysgrifenwyr blaenorol ? Pa ddrychfeddwl mae yn roddi i ni o Grist? Dyma rai o lawer o'r cwestiynau a gyfod- ant yn y meddwl pan yn sefyll uwchben y Logos yn nechreu efengyl Ioan, a dyma y pethau y cynygiwn roddi cymhorth i'w hateb yn yr erthygl hon. Mae amryw bethau yn gymhorth i benderfynu ystj'r geiriau mewn hen ysgrifeniadau—yr ystyr a roddid iddynt gan ysgrif- enwyr blaenorol, y cysylltiadau yn mha rai eu defayddir gan yr ysgrif- enydd ei hun, a'r ystyr a roddid iddynt gan ysgrifenwyr cydoesol, neu rai yn fuan ar ol ei amser ef. Mae ystyr geiriau yn cyfnewid gyda threigliad oesau, fel y mae yn bur anhawdd yn mhen amser maith i benderfynu pa ystyr a roddid iddynt amser yn ol; ac y mae yr anhaws- dra yn cael ei fwyhau pan fyddo dynion yn codi y naill oes ar ol y Uall i geisio profi fod yr ystyr yn wahanol i'r dyb gyffredin. Mae ystyr Logos wedi bod yn destyn dadl er ys blynyddau bellach, ac felly rhaid i ni fod yn bur bwyllog a gofalus yn ein hymchwiliadau. Y cwestiwn cyntaf yw, pa fodd y daeth Ioan i ddefnyddio yr enw yma ? Cyn cynyg ateb hwn, mae jrn deilwng o sylw ei fod wedi ei ddefayddio yn flaenorol yn yr ysgrifeniadau Persiaidd a elwir Tend- ayesta—y cyfieithad Groegaidd a elwir Deg a Thriugain, Ezec. i. 24— y cyfieithadau Caldaeg, neu y Targums—rhai o lyfrau yr Apocrypha— a gweithiau Philo. Mae Pearson yn ateb fel hyn,—" Canys nid athrawiaeth newydd oedd hon, eithr esboniad o'r ysgrythyrau hyny a ddywedant wrthym fod Duw wedi gwneud pob peth trwy ei Air. 'Trwy Air yr Arglwydd y gwnaethwyd y nefoedd, a'u holl luoedd 35