Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. ESBONIADAETH Y DADGUDDIAD. Ein hamcan yn yr erthygl hon fydd rhoddi byr hanes o'r prif esbon- wyr ydynt wedi ysgrifenu ar y Dadguddiad, a nodiadau ar eu gweith- iau. Cyfyngwn ein sylwadau yn benaf at y rhai hyny ydynt wedi eyhoeddi eyfrolau ar y llyfr ar ei ben ei hun; a diau y teimla y dar- llenydd fod hyny yn ddigon, heb i ni gynyg manylu ar y rhai ydynt wedi esbonio y Dadguddiad yr un ffordd a llyfrau ereill yr ysgrythyrau, megys Clarhe, Henry, Scott, &c. Ar yr un pryd, nid ydym yn ym- rwymo cau y rhai hyn oll alían, mwy nag yr ydym yn ymrwymo gosod y lìeill oll i inewn. Mae yn ddiddadl fod llawer yn y saith eglwys at ba rai ei hysgrif- enid, yn alluog i ddeall llyfr y Dadguddiad, ac i dynu o hono y gwersi amcenid ddysgu iddynt; ac o ran hyny, mae y rhan fwyaf o hono yn ddigon eglur eto i ddyn o synwyr a gwybodaeth gyffredin, pan yn boddloni cael ei arwain gan synwyr cyffredin yn ngoleu rhanau ereill gair Duw. Mae yn ddigon amlwg ei fod yn dysgu rhinweddau Crist- ionogol, ac yn arwain i gariad a ffyddlondeb neillduol. Cynwysa addew- idion mawr iawn a gwerthfawr i'r rhai hyny ydynt yn caru Crist yn fwy na clim arall, ac yn ei ddilyn drwy bob rhwystrau. Mae hyn yn cael ei ddeall gan ddarllenwyr yn gyffredin ; ond yn aml iawn mae dynion yn cael eu synu gan orwychder y wisg, fel ag i anghofio enaid y llyfr, ac yn treulio liawer mwy o amser gyda'i allanolion na chyda'r mewnol a'rysbrydol ynddo. Ie, mae llawer wedi myned i feddwlnadyw ddim ond gwisg. Ymddengys fod allanolion y llyfr wedi tynu sylw yn foreu iawn. Trwy esbonio ei weledigaethau yn llythyrenol, yr oedd yn rhwydd iawn cysoni Cristionogaeth â dymuniadau calon lygredig, a'i gwneud i ymddangos o flaen y byd yn fwy boddhaol pan yn addaw cyfoeth a theyrnas, na phan yn gofyn hunanymwadiad, ffyddlondeb, a chariad. Mae yn fwy na thebyg fod gwrthwynebiad y byd ì symledd crefydd wedi dylanwadu ar rai dynion da i geisio ei gosod ailan yn fwy cydweddol a dull y byd o feddwl; ac yr oedd llyfr y Dadguddiad yn rhoddi gwell cyfie i hyny na'r un llyfr arall yn y Testament Newydd. Mae y dull cyffredin o esbonio y Dadguddiad yr un peth o ran egwy- ddor a'r dull Eabbinaidd o esbonio y proffwydoliaeth.au am Grrist. Darfu iddynt hwy esbonio y cymhariaethau trwy ba rai y gosodai y proffwydi allan deyrnas ysbrydol Crist mewn modd lìythyrenol, daiaroì, a chnawdol, nes peri i'w holynwyr yn amser Crist fethu ei aduabod pan ddaeth. Dylasai y methiant hwn o eiddo y Eabbiniaid Iddewig 2 ■