Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. PEAWF, DIENYDDIAD, A CHLADDEDIGAETH SIAEL Y CYNTAF. Mae pob un ag sydd wedi talu rhy wfaint o sylw i hanes Prydain Fawr, yn gwybod rhywbeth yn nghylch yr anffodus Siarl y Cyntaf—iddo gael ei orchfygu gan Cromwell, iddo gael ei wneuthur yn garcharor, iddo gael ei ddwyn i brawf cyhoeddus, iddo gael ei gondemuio, a'i ddien- yddi©; ond ychydig o bosibl sydd o ddarllenwyr Oymru wedi gweled manylion hanes ei brawf, ei ddienyddiad, a'i gladdedigaeth. Prawf y brenin Siarl y Cyntaf yw y pwysicaf o bob prawf gymerodd le yn Mhrydain erioed. Dan yr ystyriaeth y byddai yr hanes yn dderbyniol ac yn ddyddorol i lawer, ymdrechwn osod y manylion mor gyflawn, cryno, egíur, ac anmhleidgar ag y byddo modd o flaen y cyhoedd; ac os bydd rhywbeth yn anghywir neu gamsyniol, na phriodoler ef i gulni neu bleidgarwch ysbryd yr ysgrifenydd. Er mantais gwell y darllenydd gwnawn hyn o SYLWADATJ RHAGARWEINIOL. Esgynodd Siarl y Cyntaf i'r orsedd yn y flwyddyn 1625. Yr oedd Siarl, fel y rhai fu o'i flaen, o duedd unbenaethol—am gael yr holl awdurdod i'w law ei hun, gwneud fel yr ewyllysiai, ac heb fod yn gyf- rifol i neb am ei ymddygiadau. Yr oedd y genedl o'r tu arall am leihau awdurdod y goron, ac am gael mwy o law yn nhrafodaeth achos- ion y deyrnas, a hyny er mwyn iawn ddyogelu rhyddid ac iawnderau y deiliaid. Yr oedd egwyddor yr ymdrech hon rhwng y deyrnas a'r goron yn myned yn miaen er ys rhai oesoedd mewn modd dystaw, eithr yn amser Siarl y daeth i addfedrwydd, ac y cafodd gyfleusdra i amlygu ei hun mewn dull gweithredol. Ni chafodd neb well mantais na Siarl i deyrnasu, ac ni fu neb mor anffodus â Siarl yn ngwyneb ei fanteision. Yr oedd Siarl o un tu yn fyrbwyll, trahaus, a thwyllodrus; ac yr oedd y genedl o'r tu arall yn cael ei harwain gan ddynion goleuedig, medrus, a phenderfynol. Mynai Siarl fyned i ryfel a'r Hispaen yn groes i «eimlad y wlad, gwrthodai y senedd bleidleisio arian i Sarl at ddwyn y rhyfel yn mlaen, torai Siarl y senedd i fyny, benthyciai arian, a chyfodai drethoedd heb ganiatad y senedd. Pan elai yn gyfyng ar Siarl am arian, galwai y senedd yn nghyd; ond yn lle pleidleisio yr arian angenrheidiol iädo, condemniai y senedd ei ymddygiadau ef. Perai 13