Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. CANIADAETH GYSEGEEDIG. TJn gangen bwysig o addoliad y cysegr yw caniadaeth ; ac y mae yn arwydd er daioni fod cymaint o sylw yn cael ei dalu iddi yn y dyddiau hyn. Teimla'r pi-egethwr, teimla'r gynulleidfa, a theimla'r nefoedd hefyd pan fyddo hyn yn cael ei wneud â'r "ysbryd ac â'r deall." Fel gyda phob peth, y mae caniadaeth grefyddol hefyd wedi profi cyfnodau 0 ddirywiad ac iselder annheilwng o'i dybenion goruchel; ond hefyd, ddiwygiad a phurdeb, ae ar rai adegau a manau berífeithrwydd dihafal. Amcan yr erthygl hon yw gosod o flaen y darllenydd hanesiaeth caniad- aeth gysegredig. Yn ngwyneb eangder y maes, a chyflawnder y defh- yddiau, yr anhawsder yw, dwyn y prif ffeithiau o fewn cylch erthygl fer, heb esgeuluso dim sydd hanfodol wrth wneud hyn; ceisiwn gan hyny gyfleu y rhanau mwyaf dyddorol a'r amserau mwyaf blodeuog i sylw ein darllenwyr. Gogwyddir ni yn gryf i gredu fod cerddoriaeth gyntefìg yn gyfynged.ig i amcanion crefyddol, ac nad yw y wladol a'r masweddol ond llygriad o honi. Mae cerddoriaeth cenedloedd anwaraidd feallai yn ddigon anhyfryd ar glust y Prydeiniwr, ac yn ol ei chymeriad yn cynyrchu gwawd neu wrid ar ei wyneb ; ond yn eu gwyliau a'u gwleddoedd, ystyriant hwy y cyfan yn rhan o addoliad crefyddol; ac fel rhodd a ddisgynodd yn uniongyrchol oddiwrth y duwiau, cyflwynant ef eto yn 01 i'r duwiau. Ac os am gael rheswm dros amrywiaeth cymeriad y ganiadaeth, gallwn ei gael yn yr amldduwiaeth a ffynai. Fel gydag hanesiaeth pob peth arall, yn y Beibl y cyfarfyddwn a'r cofnodion boreuaf am ganiadaeth. Dywedir am Jubal, (Gen. iv. 21,) mai efe oedd "tad teimlydd pob telyn ac organ." Ond y mae y ffaitlí fod y rhai hyn wedi eu dyfeisio mor foreu, yn brawf fod cryn gynydd wedi bod ar ganiadaeth. Ystyrir hi yr hynaf o'r celfyddydau ; ac o herwydd ei chyffredinolrwydd yn mhlith pob cenedl, gelwir hi yn ferch natur. 0 herwydd y berthynas naturiol a fodola, yn rheoleiddiad y naill a derchafìad y llall, y mae y gerddoriaeth, y gân, a'r dawns, yn mhob oes yn anwahanol gysylltiedig. Gen. xxxi. 27 ; Exod. xv. 20; Barn. xi. 34, &c. Arferid cerddoriaeth ar bob amgylchiad o OTfoledd a gwleddoedd cenedlaethol, a cham naturiol oedd ei darostyngiad i ddy- benion gwael a llygredig. 1 Bren. i. 40; 1 Oron. xxv. 1; Ezra v. 12. 24"