Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. BYWYD A NODWEDDIAD LLYWAECH HEN. Llywarch Heet, Benllywydd, oedd fardd tywysogaidd, a rhyfelwr gwrol a dewrfrydig yn y chweched canrif. Yr oedd efe yn gydoeswr ac yn gydymegniwr ag Arthur Gawr yn more ei oes ; ac yn gydawen- ydd. a Thaliesin, Aneurin Gwawdrydd, Merddin ab Morfryn, Afan Ferddig, a llawer ereill o ser bore Barddoniaeth y Cymry. Gwelwn wrth hyn fod Llywarch Heìí yn un o'r cynfeirdd, ac yn sefyll jn uchel yn eu mysg. Seren loew yn mysg ein ser boreaf ydoedd. Gelwir ef yn Llywabch jffen, o herwydd iddo 'fyw, meddir, i'r oedran dirfawr o 150 o flynyddoedd. Nid oes dim yn anhygoel yn yr oedran mawr hwn. Mae 'cof am rai wedi byw yn hŷn hyd y nod na Llywabch Jffen. Mae yr hynafiaethydd yn eofio am Baran tad Lleyn yn marw yn 187 rnlwydd oed, a T. Ifan Prys o Forganwg, yn ddiweddarach, tua 200 oed. Dy- wedir fod "Marsli Hen" o Blwyf Silin yn 140 mlwydd oed. Ac y mae henoed Parr yn ddigon hysbys i bawb sy'n llyncu pills er mwyn estyn eu hoedlau, er mae yn ddigon tebyg na lyncodd yr hen ddyn bilsen erioed. Gweler enghreifftiau o hirhoedledd yn MalJcin's South Waìes, Vol. ii. 1 Adran. Y Cymry a'u Barddas cyn oes Llywarch Hen. Ychydig iawn o gofion dilys a safadwy sydd genym am feirdd a llen- orion y Oymry cyn y chweched canrif. Ehaid galw cyfnod y Derwydd- on, cyn dyfodiad y Ehufeiniaid i'r ynys hon, yn Dymhor Cynhanesiol, ac i ni, o leiaf, yn oes yr anwybod a'r dychymyg. Dyfethwyd y Derwyddon gan Pawlin yn ynys Mon ; ac am y 400 mlynedd y bu ein cenedl o dan iau a rhwysg y Ehufeiniaid, nid oes son am na bardd nac awenydd yn gallu codi ei ben i gynal gorsedd "yn ngwyneb haul ac yn llygad y goleuni;" ac nid oes na chof na chadw am gyfansoddiadau boreuach na chyfnod Llywaech Hen. Sonir, mae yn wir, am Tydain Tad Awen; ond nis gwyddom pwy oedd efe, na phaham y gelwir ef Tad Awen. Anhawdd penderfynu pa un ai dyn gwirioneddol, ai per- son dychymygol ydoedd. . Tybia rhai mai yr haul ydoedd; ond y mae y coffa am ei fedd "yn ngwarthaf bron aren," yn arwyddo y credai awdwr " ynglynion y beddau" mai hen gynfardd y Cymry ydoedd. Gwel Eirlyfr Pughe dan y gair Tydain. Sonir hefyd am ý tri chyntefìgion, Plenydd, Alawn, a Gwron. ^ Mae yn amlwg mai cyntefigion Barddoniaeth yw y rhai hyn, ac mai dyn- 85