Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. IAGO A'I EPISTOL. ÜiîWîíg yr Epistol at yr Hebreaid a Dadguddiad Ioan, y mae saitli o epistolau yn myned dan yr enw Epistolau CyfFredinol. Paham y gel- wir hwynt felly sydd bwnc, cyffelyb i lawer o bynciau ereill, y mae beirniaid wedi methu cydolygu arno, Dywed un, eu bod yn cael eu galw yn Epistolau Cyffredinol, oblegyd eu bod wedi cael eu hystyried gan Grristionogion yn gyffredinol fel epistolau awdurdodedig, a hyny o'r dechreuad. Dywed arall, Na, nid hyny yw y rheswm, ond oblegyd eu bod yn cynwys yr oll o athrawiaethau crefydd a goleddid gan yr eglwysi boreuaf yn gyffredinol. Nage, medd y trydydd; ond oblegyd nad ydynt fel epistolau Paul yn gyfeh'iedig at eglwysi neu bersonau neillduol, ond at y saint yn gyffrediuol. Nis gall esboniad y cyntaf fod yn gywir, oblegyd bu Epistol Iago, ail Epistol Petr, ail a thrydydd Epistol Ioan, ac Epistol Judas, am hir amser yn cael eu hystyried fel epistolau diawdurdodedig ; ac ni chyfrifwyd hwynt yn wahanol gan yr eglwysi yn gyffredinol, hyd gynadledd Hippo a Carthage. Nis gall yr ail fod yn gywir, oblegyd ceir athrawiaethau yn Epistolau Paul, na chrybwyllir am danynt yn yr Epistolau Cyffredinol. Ymddengys tipyn o anhawsder ar ffordd cywirdeb y trydydd hefyd; oblegyd y mae dau o Epistolau Ioan yn gyfeiriedig at bersonau neillduol, ac Epistol cyntaf Petr yn gyfeiriedig at gylch neillduol—Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia a Bithynia. Hwyrach nas gallwn ddyfod dros yr anhawsder yn M'ell na chaniatau i ail a thrydydd Epistol Ioan, yn herwydd eu bych- ander, i gael pasio yn nghysgod y cyntaf; a bod cylch terfynol Epistol cyntaf Petr yn ddigon eang, fe] ag i gyfreithloni cysylltu y cwblgyda'u gilydd dan yr enw Epistolau Cyffredinol. ìihaid i ni gyfyngu ein hunain y tro hwn at lago a'i Epistol. Yr ymofyniad cyntaf a gyfyd yn naturiol yn y meddwl yw, pwy oedd y Iago hwn y priodolir yr epistol iddo. Os ydyw yr epistol yn ysbrydo?- edig, rhaid fod ei awdwr yn un o ddynion santaidd Duw, wedi ysgrif- enu megys y cynhyrfwyd ef gan Ysbryd Duw—yn un o gyfryngau dewisedig yr Arglwydd i fynegu ei feddwl ef i'r byd. Os felly, dys- gwyliwn ei gael yn apostol. Yn rhestr enwau y deuddeg apostol gan Matthew, y mae dau Iago—Iago mab Zebedeus, a Iago mab Alpheus, yr hwn a elwir gan Marc, Iago fychan. Yn ei Epistol at y Galatiaid, y mae Paul yn son am lago brawd yr Argíwydd, "Eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd." 14