Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. EHIFEDI LLYFR Y DADGUDDIAD. GAÎí Y PAECH. E. GWESYN" JONES. Mae y derbyniad croesawus a gafodd "Esboniwr y Dadguddiad " wedi cynhyrfu ynom deimladau cymysglyd. Ar un llaw yr ydym yn ddiolchgar am i ni gael bod o ryw wasanaeth i eglwys Crist trwy alw ei sylw at lyfr oedd wedi ei esgeuluso yn ormodol, er ei fod wedi ei fwriadu i fod yn addysgiadol iddi. Ar y llaw arall yr ydym yn dwys ofidio na fuasem wedi medru gwneud gwell chwareu teg a'r Uyfr rhyfedd a gogoneddus y buom yn cynyg ei esbonio. Yr ydym yn parhau i deimlo y fath ddyddordeb yn y llyfr, fel nas gallwn lai na sylwi ar bob peth a lueddoi dafiu goleu ychwanegol arno; ac wedi dechreu ei esbonio barnwn ei bod yn ddyledswydd arnom osod mewn ffurf weledig bob goleu fedrwn gael ar y llyfr. Diau y gwel pob darllenydd meddylgar fod rhywbeth yn bur hynod yn y rhifedi a ddefnyddia Ioan yn barhaus yn llyfr y Dadguddiad, sef y rhif Dau, Tri, Pedwar, Chwech, Saith, Deg, Deuddeg, Dau fìs a deugain, a Mil dau cant a thriugain o ddyddiau. Yr oeddym pan yn ysgrifenu ein hesboniad yn teimlo y dylasai y rhifedi hyn gael mwy o sylw, ond nid oeddym yn teimlo yn ddigonol i'r gorchwyl; a chyda llaw dysgwyliem y buasai rhai o'r adolygwyr yn dywedyd rhywbeth a fuasai yn tueddu i daflu goleu ar y pwnc, neu y buasem yn cyfarfod â rhyw awdwr yn trin y pwnc. Ond wrth weled nad oedd dim goleu yn dyfod o un cyfeiriad, ni chawsom lonydd yn ein hysbryd heb ymchwilio yn fanylach i'r pwnc yma. Teimlem fod y gymeradwyaeth a roddodd yr adolygwyr yn ddieithriad, a'r derbyniad croesawus a roddodd y cyhoedd yn gyffredinol i " Esboniwr y Dad- guddiad," yn ein rhwymo i wneud ein goreu i'w berffeithio a'i wneud yn fwy teilwng o'r gymeradwyaeth uchel a gafodd. Mae yn hawdd gollwng ffrwyn i'r dychymyg wrth ymdrafod a'r rhifedi yma, a gweled ynddynt bethau na feddyliodd yr Ysbryd Glân erioed ddysgu drwyddynt; ond er hyn, mae yn sicr fod ynddynt wersi ag y mae yn bwysig i ni eu cael allan; a chredwn nad anmhosibl cael allan y gwersi hyny heb fyned dros derfynau gwirionedd a sobrwydd. Dechreuwn gyda'r rhifedi yma yn eu trefn naturiol, ac nid yn y drefn eu defnyddir yn llyfr y Dadguddiad. Nid anhawdd fyddai dangos fod 26