Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. EHIFEDI LLYFE Y DADGUDDIAD. GAN Y PAECH. R. OWESYN, J O N E 8, MERTHYE. Saitii y\v y rhif nesaf. Arferir y rhif hwn yn amlach yn y Dadgudd- iad na'r un arall. Dyma brif rifedi y llyfr. Dechreua gyda llythyrau at y saith eglwys. Gwelai Ioan un yn rhodio yn nghanol y saith ganwyllbren aur, ac yn dal yn ei law ddeheu saith seren. Yn neheulaw yr hwn oedd ar yr orseddfaine gwelai lyfr wedi ei selio à saith sel. Rhoddwyd saith udgorn i'r saith angel, a saith phiol i saith angel arall. Fel hyn, heb nodi pob enghraifft, mae yn amlwg fod saith yn rhifedi pwysig yn y llyfr. Yn awr, y cwestiwn yw, beth mae y rhif yma yn arwyddo. Dywedir yn gyífredin ei fod yn arwyddo perffeithrwydd ; ond y mao yu anhawdd canfod paliam y mae mwy perfl'oithrwydd yn y rhif saith na'r rhif pump, chwech, neu wyth. Ond pan gofiom ein bod wedi penderfynu mai tri yw rhifedi Duw, a phedwar yw rhifedi y ddaiar, a bod tri a phedwar yn gwneud saith; yna, ymddengys mai prif amcan y rhif saith yw dynodi cysylltiad Duw a'r byd yn ei drugar- edd, fel y mae yn cael ei ddangos yn yr efengyl a'i weithio allan yn yr eglwys. Mae Duw a'r creadur wedi dyfod i undeb a'u gilydd yn Nghrist, a thrwy Grist mao Duw a'r byd wedi dyfod i agosrwydd neill- duol a'u gilydd. Ac yn lle bod saith yn rhif perffaith, mae yn dynodi pa mor bell y gall perffeithrwydd gydweithio ag anmherffeithrwydd yn nhrefn gras. Ehaid i ni edrych ar rai enghreifftiau lle mae hyn yn cael ei egluro. Dywed Ioan fod gan yr Oon saith gorn a saith lygad. Yn Nghrist, fel Cyfryngwr, y mae holl gyflawnder y Duwdod yn pre- swylio yn gorfforol. Yr oedd yn Dduw yn yr ystyr helaethaf; er hyny, gwnaethwyd ef yn bechod drosom ni. Daeth mor debyg i bechadur fel ag i gael ei gyfrif gyda phechaduriaid. Nid oedd y byd yn gallu gwahaniaethu rhyngddo a phechadur. Fel hyn maeDuwynei drugaredd, neu yn y rhif saith, yn medru cyd-ddwyn yn rhyfedd iawn ag anmher- ffeithrwydd y byd hwn. Cydnebydd eglwys Sardis fel ei eiddo, er nad oedd ganddi ond enw o fod yn fyw. Nid oedd wedi hollol ddarfod a Laodicea, er mor hunanol ydoedd, ac er mor lleied oedd ganddi i ymtt'i ostio ynddo; mae yn dilyn o hyd tra fyddo y gobaith lleiaf am edifeirwch. Ei waith dan y rhif saith yw edrych am le i drugarhau. Yma mae yn Uon'dei enw—Jehofah, Duw trugarog a graslawn. Gyda 38