Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEIRNIAD. BYWYD BOEEOL YE APOSTOL PAUL. Cyw y gellir amgyffred neillduolion bywyd boreol yr apostol Paul, yn nghyd â natur y dylanwadau fuont yn gweithrèdu er ffurfio ei gymeriad moesol, mae yn ofynol cymeryd golwg ar ddaiaryddiaeth, gwleidiadaeth, ac arbenigrwydd cymdeithas grefyddol y wlad lle magwyd ef. Ehandir helaeth yn AsiaLeiaf yw Cilicia. Cymerer daiarlen mewn llaw, edrycher i gyfeiriad y dwyrain a'r de, a gwelir Cilicia yn gorwedd rhwng myn- yddoedd uchel a Môr y Çanoldir. Terfynir hi ar y gorlìewin gan Pam- phylia, ar y gogledd gan fynydd Taurus, ar y dwyrain gan fynydd Amanus, ac ar y de gan forgainc Iseus. Dan yr ymherawdwyr Ehuf- einig cyntaf, rhenid Cilicia yn ddau ddosbarth agos yr un faintioli a mesuriad, ond yn wahanol iawn yn arwynebedd y tir ac yn nghymeriad y preswyíwyr. Gelwid yr adran orllewinol yn Cilicia Arw, yn herwydd fbd man fryniau mynydd Taurus yn rhedeg i lawr i'r môr, gan ffurfio y llinell wahaniaethol cydrhwng culfor Issus a Pamphylia, ac felly yn rhoddi golwg wyllt, anial, ac angwrteithiedig i'r tir. Preswylid y dosbarth hwn gan ddynion nodedig am eu Uedrad a'u hysbeiliaeth. Yn y rhan ogleddol, yr hon a elwid Isauria, yr oedd ogofaau a glynoedd dyfnion a pheryglus, pa rai a wasanaethent fel amddiffynfeydd cedyrn a dyogel i'r ysbeilwyr. Trachefn, yr oedd coedwigoedd, clogwyni, a phorthladdoedd bychain y dosbarth deheuol o'r adran yn ymguddfa gyfleus i'r môr-ladron, pa rai a ddygent yn mlaen fasnach enillfawr mewn prynu a gwerthu caethion. Er holl ddoethineb a phenderfynol- rwydd y galluoedd Ehufeinig, methasant yn hollol a darostwng y gog- leddwyr hyn, a gorfu iddynt foddloni yn y diwedd ar adeiladu cylch o amddiffynfeydd milwrol i'w cadw o fewn eu terfynau, a'u hatal i gyf- lawni eu difrodiadau ysbeilgar yn y dyffryndir a'r dinasoedd. Ond yr oedd yn wahanol gan breswylwyr glanau y môr; fel yr oedd nerth breninoedd Syria a'r Aifft yn gwanhau, ymhyfaent hwythau yn eu hym- gyrchion creulon a gwaedlyd; ac yr oedd cyfodiad a chryf had yr ym- herodraeth Eufeinig yn y dwyrain yn fantais bwysig i'w masnach. Dygent eu caethion i Delos—ynys fechan yn ynysfor Oroeg, lle y prynid hwy am bris uchel gan bendefigion Ehufain. Ond tyfodd y gaethfasnach hon i ddylanwad mor felldigedig, a dinystriai fasnach onest mor effeithiol fel y penderfynodd Ehufain o'r diwedd osod terfyn bythol arnynt. Anfonwyd rhyfelgyrch anferth allan dan ly wyddiáeth Pompey, , '