Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL fíH/F VIII. CYFROL II. AWST, 1877. PRIS CEINIOG. - T~. --1-r------- i -■ :-,----•--------- MYNYDDOG. IDDAI gofyn pwy yw Mynyddog yn annheilwng o Gymro, am fod yr enw i'r byd Cymreig (a llawer o'r Seisnig hefyd, o ran hyny) yn gyfystr a bardd a cherddor o athrylith anghyffredin. Er fod yn an- hawdd dyfod o hyd i Gymro wedi digwydd brendd- wydio y chwarter canrif diweddaf ymaith heb weled y " Dyn a'r baich drain," neu ddyfod i gyffyrddiad â " Rhywun o Rywle," yn rbywfan ar ei hynt, eto, digon tebyg y bydd yn newydd i lawer mai yn y Ddol-lydan—ffermdy bychan gerllaw " Hen Gapel" Llanbrynmair—y ganwyd ef ar Ionawr lofed, 1833 ; ac, felly, ei fod yn ei 45ain flwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt Daniel a Jane Davies. Bu farw ei dad er's amryw flynyddoedd bellach ; ondmae ei fam, yn nghyd a dwy chwaer iddo eto yn fyw i gyd-bryderu â'i anwyl briod, ac i gyd- weini iddo ef yn ei gystudd presennol. Yr oedd ei ddiweddar dad yn amaethwr llwyddiannus, yn ddyn caredig, crefyddol, ac o syn- wyr cyffredin ciyf anghyffredin. Bu yn ddiacon a blaenor y gân am lawer o flynyddoedd mewn cysylltiad âg eglwys yr " Hen Gapel." Ystyrid ef yn ei ddydd yn gerddor deallus iawn, a digon tebyg fod a fyno hyny lawer a gosod i lawr sail yr enwogrwydd cenedlaethol y mae gwrth- ddrych yr ysgrif hon wedi ei enill yn deg yn y cyfeiriad hwnw. Am ei fam, rhydd un cipdrem ar ei gwyneb deallgar, llawn, a dirychau, ddigon o fodcllonrwydd i unrhyw sylwedydd fod Myn- yddog wedi etifeddu oddi- wrthi bob mantais anian- yddol i fod yr hyn ydyw. Am ei fanteision addysgol yn moreu ei oes, gellir dweyd ei fod wedi mwynhau rhan y cyffredin o blant amaethwyr yn ardaloedd Llanbrynmair yn y dyddiau hyny; ond gwyddys mai ffrwyth ymdrech bersonol, ac ymrwbiad diweddar â chymdeithas f anteisiol, ydy w hyny o feistrolaeth a enill- odd ar y Saesonaeg. Sym- udodd gyda'r teulu pan yn lled ieuanc o'r Ddol-lydan i dyddyn helaethach y Fron, yn ardal Talerddig, a bu y symudiad hwnw yn un ar i fyny mewn dwy ystyr—yn amgylchiadol yn gystal ac anianyddol. Ac yn'o, drwy ei ddiwydrwydd a'i fedrus- rwydd gyda gorchwylion y ffarrn, a chyda'r felin sydd mewn cysylltiad â hi, bu yn profi am lawer o flynyddoedd endeb y dyb sydd yn ffynu mewn rhai cylchocdd fod lled-chwithdod ac esgeulusdra yn arwyddion hanfodol athrylith uchel ; oblegid nid oedd raid iddo rocldi i fyny i neb am gneitío defaid, trefnu gwrych- oedd, dal yr aradr, a medi gwenith, ei fedylu, ei ddyrnu, a'i faiu. Ond cynyrchion awenydclol Mynyddog sydd wedi rhoddi swyn anfarwol yn enw y Fron, a'i wneyd yn wrthddrych o ddyddordeb byw i bob Cymro llengarol, yn debyg i fel y mae Mossgiel neu Ellisland i bob Ysgotyn Burnsgarol. Nid wyf yn cofio myned heibio y fan erioed yn y train na byddai rhywrai yn edrych allan yn awyddus am yr anedd lle y blodeuodd gyntat awen ffrwythlon ein Burns Cymreig. Gellir dyddio y digwyddiad dyddorol hwnw, yr wyf yn meddwl, rywbryd tua'r fiwyddyn 1853 ; ac i'r cyfarfod- ydd llenyddol a ddechreuent yr adeg.hono ddeffroi meddylgarwch ieuenctyd yr ardaloedd hyn y perthyn yr anrhydedd arbenig o dynu ei awen allan. Tua'r un adeg, a than ddylanwad yr nn cym- helliad cystadleuol, y teimlodd yr ysgrifenydd awycld i gynyg dyfod allan yn gyhoeddus yn y cymeriad o fardd, ac oblegid an- amledd beirdd, neu hyd yn oed rai yn honi bod yn feirdd, ystyrid ni ein dau yn gymydogion, er fod oddeutu wyth milldir o beílter MR. RICHARÜ DAYIES (Mynyddog). yn cyfryngu rhyngom. Daeth ef allan ar y cyntaf bron fel haul boreuddydd teg yn ei ogoniant. Mae rhai o gynyrchion boreuaf ei awen mor dda—megis englynion " Dinystr Dinasoedd y Gwas- tadedd :" pryddest " Rhyfel a Heddwch ;H awdl " Deg Pla yr Aipht; cywydd y " Ddaeargryn," «kc,—fel mai o'r Draidd y rhagorodd arnynt yn ei gynyrchion addfetaf. Wrth feirniadu y bryddest " Rhyfel a Heddwch," sylwai y diweddar Caledfryn ei bod mor ragorol fel yr oedd yn werth cynnal eisteddfod pe bai hi yn unig fuasai y cynyrch. Ac am awdl y " Deg PJa," mentrwn brophwydo y byddai ei chyhoeddiad yn sicr o newìd syniad cannoedd am alluoedd Mynyddog i gynyrchu cyfansoddiadau o feithder a pliwysigrwydd. Ei ymddangosiad fei bardd roddodd fantais gyntaf i mi wybod fod y fatli un mewn bod, ac yr wyf yn cofio yn dda mai wrtli y teitl estronol, " Mab y Fron," yr oedd yn çael ei adnabod fel llenor o'r pellter yr oeddwn i ynddo. Ond oddiwrth ein cyd-dueddiad daeth yr adnabyddiaeth yn ddigon agos yn fuan iddo yael ei ddynodi wrtli ei enw priodol; ac er yr Eisteddfod a gynnaliwyd yn y Dinas Mawddwy, lle y cafodd ei urddo yn fardd gan Gwalchmai gyda'r ffug enw Mynyddog, y mae nerth ei athrylith fel bardd a clierddor, fel goliebydd newyddiadurol, ac feJ tywys- og yr arweinycJdion eistedd- fodol, wedi rlioddi adenydd i'w enw i ymledu mewn Íwblogrwydd dros ddau Gy- andir. l'r rliai a gawsant y pleser o ddarllen ei gynyrcli- ìon, neu o sylwi ar ei ym- ddangosiad dengar ar lwy- fan yrEisteddfocl,a'i glywed a'i weled yn canu ci ganeuon gyda'r gwynelî-fynegiant an- narluniadwy o natunol sydd ganddo i roddi ystyr ac effaitli i'r liyn a gana ; i'r rliai a deimlasant awcli yr arabedd sydd ganddo bob amser yn ystor yn ei gawell saethau yn barocl i'w anelu ar amnaid ar aden llais clir, treiddioJ, i gadw cynulliad o ddeng mil yn effro, mae y rheswm am ei boblogrwydd yn ddigon amlwg. Yn y flwyddyn 1871 ym- unodd mewn priodas â Miss Francis, merch y Parch. Aaron Francis(Aaron Moch- nant), Rhyl. Mewn golyg- iad ffermwrol o'r mater. dichon fod ambell wladwr go blaen yn cyfrif yr ieuad ar y cyntaf dipyn yn ang- hymarus oherwydd symledd gwledig dygiad i fyny y naill, achoethderdiwylliantdygiad i fyny tiefol y llall; ond nwy bynag a gafodd fantais i sylwi ar yr elfenau o gydnawsedd sydd yn nghymeriad y naill a'r llall, deallant mai cam bychan i serch oedd y cyfwng awahanai rhyngddynt, a bod mantaisi'r naill a'r llallo'i ddifodi drwy ymdoddi i'wgilydd. Y mae talent gerddorol Mrs. Mynyddog, mewn cysylltiad a'r diwylliant uchel a fwynhaodd, yn llawn cyfartal a'r eiddo yntau ; a thra mae y gydnabyddiaetli fwyaf boddhaol rhwng ei bysedcl a thànau y berdoneg, teimla pob ymwelydd a " lìron y Gân" nad yw ei thy-drefnidaeth yn dioddef un anfantais oddiwrth liyny, a dychwela oddiyno (wedi sylwi ar ei gofal caredig am gysur ei phriod enwog, ac am wneyd ei ewyllys mewn crocsawu cyfeillion yn ewyllys iddi ei hun) gan ymson— " Gem o wraig i'w mawrygu ;" " digon i gyfiawnhau Mynyddog am yr arafwch a arferodd wrtli wneyd y 'dewisiad." Efallai y dylaswn fod wedi clweyd yn gynt fod yr alwad barhaus a achlysurid gan boblogrwydd y bardd am ei gynnorthwy i gynnal cynglicrddau ac eisteddfodau, wedi ei analluogi i ddwyn baich dyledswyddau bywyd ffermwro]. Effeithiodd i raddau i newid cwrs ci íywyd. Wedi enill cryn gnwd o wobrwyon, rhoddodd heibio yn lled lwyr y cystadlu i ganu wrth duedd ei awen ffraeth, ddarnau byrion cymhwys i'w dadganu, yr hyn oedd yn fwyded-