Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF IX. CYFROL II. MEDI, 1877. PRIS CEINIOG. TALIESIN O EIFION. EL ENW BARDD, mae yr uchod yn adnabyddus trwy holl Gymru. Ganwyd Taliesin o Eifion ar y 13eg o fis Medi, 1820, yn y lle a elwir Ty'n y gors, Llanystumdwy, Eifionydd. Enwau ei rieni oedd John ac Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Langollen pan oedd Tliomas Jones, sef gwrth- ddrycii ein cofiant, yn chwe mlwycld oed,ac yn ebrwydd rhoddwyd ef yn yr ysgol ddyddiol, gydag un o'r enw Mr. Jones, clochydd Llangollen, ac ymhen tua chwe mlynedd wed'yn, anfonwyd ef i'r Grove School, Gwrecsam, a bu yno am ddwy flynedd. Yr oedd yn hynod gytíym gyda'i wersi ac yn cy- meryd ei ddysg yn rhydd ac effeithiol. Yr oedd ynddo duedd at ddysgu y gelfyddyd o baentio, a thrwy fod ei dad yn grefftwr da lyu y gelfyddyd hono, cafodd bob mantais i'w dysgu. Yn y flwyddyn 1848 priododd ; ond nid wyf yn gwybod meich i bwy ydoedd hi, ond bu farw ei wraig cyn pen llawer o flynyddoedd, ac ar ol ysbaid gweddus o amser, priododd drachefn tua'r flwyddyn L855, â Miss Kelly, merch Samutl Kelly, Yswain, goruchwyliwr gwaith haiarn Panteg yn Sir Fynwy. Dyna yn fyr grynhoad o'r hyn ellais eu casglu o hanes boreu ei oes. Mae iddo yn awr bump o blant yn fyw sef, un mab a phcdair merch. Yn awr, prysuraf at yr adeg y daethum i gydnabyddiaeth ag ef, a cheisiaf bortreadu yroll o'r dyn gellirbarnu wrth y darlun hwn ei fod yn ddyn hardd, t c felly yr oedd—yn un cyflawn o gorph; lluniaidd oosodiad; gwyneb cyílawn a hardd; l'ygaid llymion ond siriol; talcen ucheJ, cyflawn; gwallt du, modrwyog. Yr oedd iddo wefusau cymhedrol; a gofalai na ddeuai dim o'r cyfeiriad hwnw i fradychu na niweidio neb ; nac iaith anfoesol i lygru cymdeithas; ondbyddentyn wastadfel rhyw beiriant yn gweithio wrth wres ei feddwl bywiog a barddonol. Byddai bron bob amser y cyfarfyddid âg ef yn adrodd rhyw linell bert a newydd fyddai ar y pryd yn cael ei nyddu gandclo. Fel Bardd, ni raid petruso ei restru gyda goreuon yr oes—teilwng o ffynnonell y beirdd, sef Eifionydd. Ni fagodd hyd yn nod y wlad fras hono well bardd na choeth- ach llenor na'r enwog Taliesin o Eifion. deddfau, a holl deithi barddoniaeth pan ebrwydd iawn y daeth i'r golwg yn gawr yr Eisteddfodau Gallwn ddifynu lluaws o englynion pert a melus yn yr ysgrif hon, ond ni chaniata gofod; ac, hefyd, yr wyf yn disgwyl yr ymddengys ei holl weithiau yn fuan, ac y ceir y pryd hwnw weled ei brif orchestion. Yr oedd hefyd wedi cyrhaedd gradcl helaeth o wybodaeth gyfl'redinol, fel Hanesydd a Duwinydd. Ni wybu ers tuag ugain mlynedd beth oedd blwyddyn gyfan o iechyd, ynj enwedig y blynyddau diweddaf o'i oes drafferthus. Bum yH rhyfeddu sut y byddai yn gallu canu mor ragorol o dan y fath boenau arteithiol ag a ddioddefai. Canodd tra y gallodd. Nis gallaf anghofio yr olwg arno ar ei wely amgeu, pan oedd ei awdl ar " Helen Llueddawg" bron ar ben, a'i ddwylaw, wedi eu haner parlysu gan genad yr angau, yn methu ysgrifenu gair, ond ei feddwl yn gryf ac yn llawn pryder fel pob bardd arall am gael bucldugoliaeth ar ei gydymgeiswyr. Ac ar y dydd olal' o fis Mai, 1876, sef yr adeg i anfon yr awd' i'r gystadleuaeth, gofynodd, "A ydyw yr awdl wedi myn'd?"; ac yr wyf yn meddwl na ddywedodd ond ychydig eiriau nacl oedd wecli huno, a hyny cyn i'r a^dlgrybwylledig gyraedd llaw yr ysgrifenydd yn NgAvrecsani. Ond nis anghofir y dydd rhyfedd liwnw yn Nghwrecsam gan y milocdd oedd yno yn galw aiu " Eueibiös," sef y ffug enw oedd wrth yr awdl a fernid yn oreu. Galw, a galw, yr oeddis, er fod amheuaeth ymhìith rhai nad atebid. Beth wyddom ni nad oedd ysbrydyr "Eusibius" hwn yn gwrando ac yn deall pob symudiad 1 Yr oedd rhyw- beth ysbrydol wedi meddiannu pob teimlad dynol yn y lle wrth weled y gadair yn wâg, ar hilyn du yn ei gorchuddio, ac enaid nia\\ r yr enillydd wedi myned ifydyr ysbrydoedd" Ni wnaeth un bardd erioed y fath sôn ani dano ei hun, ac efe ar y pryd yn ei fedd ! Aeth ei enw yn gyhoeddus i bob man trwy y deyrnas, a'r hanes yn cael ei ddadgan gan deimladau drylliedig a phruddglwyfus. Yr oedd yncldo lawe* o bethau'dymunol fél cyfaill, a meddai lawer iawn o elfenau gwr boneddig ; ac yr oedd yncldo ddigon o dân i gadw pob gau-feddyliwr, a phob hunan- feddyliwr draw, ond rhoddai bob cefnogaeth ac addysg i'r gostyngedig, a'r addawol. Wel " heddwcli i'w lwch ! " Iolo Trefaldwyn. C'ADAIR DDU UWRECSAM. Dechreuodd astudio yn bur ieuanc, ac ADGOF. Yu Eisteddfod Llangollen, 1858, oherwydd anwybodaeth arweddwyr yr Orsedd o athrylith Taliesin o Eition, gwrthoclwyd iddo urdd Bardd "yn ql braint a defawd.'' Yntau a wnaeth englyn duchan, yr hwn a ddiwedda gycla'r llinell— " Taliesin y teulu isel." Wrth edrych ar ei ddarlun uchod, a'r " gadair ddu " a roddwyd i'w goffadwriaeth wecli iddo ef fyncd fry i'w gadair anllygredig, daeth y llinellau hyn i fy meddwl: "Taliesin y teulu isel"—dywedodd E' wedi 'r diarddel Mewn sen, yn Llang»llen—Ond gwel!— Gwedi'r ing ca'dd ftudair Angel. Gyfailí..